Ni ddylai ysgolion gael unrhyw gyfrifoldeb i hyrwyddo, gweithredu na rheoli’r broses o frechu disgyblion, medd undeb y prifathrawon.
Dylai polisi’r Deyrnas Unedig ar gyfer brechu plant gael ei arwain gan glinigwyr, meddai undeb yr NAHT.
Mae disgwyl i’r rhaglen frechu coronafeirws gael ei hymestyn, gyda chyngor newydd yn argymell y dylai pobl ifanc 16 a 17 oed gael y brechlyn.
Y gred yw y bydd gweinidogion heddiw (Dydd Mercher, 4 Awst) yn cymeradwyo cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) sy’n argymell y dylai pobl ifanc dros 16 oed gael eu brechu.
“Arwain gan glinigwyr”
Yn ôl Paul Whiteman, ysgrifennydd cyffredinol NAHT, mae’r undeb wedi dweud ers y dechrau y dylai’r polisi “gael ei arwain gan glinigwyr”.
“Mae’n amlwg na ddylai ysgolion fod a’r cyfrifoldeb o hyrwyddo, gweithredu na rheoli’r rhaglen frechu,” meddai.
“Er gwaethaf y graddau y gallai pobol ifanc ddioddef yn uniongyrchol yn sgil y feirws, mae’r niferoedd uchel o ddisgyblion oedd yn absennol o’r ysgol ar ddiwedd y tymor diwethaf yn dangos fod gan Covid y pŵer o hyd i effeithio ansawdd a pharhad eu haddysg.
“Mae hynny’n bryder parhaus i arweinwyr ysgolion.”
Rhwng 12 ac 16 Gorffennaf, roedd 8.6% o ddisgyblion yn absennol oherwydd rhesymau’n ymwneud â Covid-19 yng Nghymru, ac roedd 1.13 miliwn o blant yn asbennol yn Lloegr am resymau’n ymwneud â Covid tua diwedd y tymor.
“Bydd disgyblion yn dychwelyd i ysgolion fis nesaf, ac mae angen i’r Llywodraeth gymryd pob cam posib i atal trosglwyddiad y feirws ymysg pobol mewn cymunedau ysgolion, waeth beth yw eu hoedran,” ychwanegodd Paul Whiteman.
“Bydd yn ymwneud â hyder y cyhoedd yn beth bynnag fydd y mesurau hyn, felly mae gan y Llywodraeth ddyletswydd i’w cyfathrebu nhw’n ofalus a chlir hefyd er mwyn osgoi mwy o amharu diangen a phlant yn colli addysg.”
“Blaenoriaeth” i addysg
Dywedodd Geoff Barton, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau, wrth Radio 4 y byddai ymestyn y rhaglen frechu’n lleihau’r amhariad ar addysg.
“Rhaid croesawu unrhyw beth sy’n rhoi sicrwydd i bobol ifanc eu bod nhw’n cael eu trin yn yr un ffordd ag oedolion ac na fydd eu haddysg yn cael ei amharu i’r un graddau ag y bu,” meddai Geoff Barton.
“Dw i’n siŵr y bydd nifer o rieni yn meddwl o’r diwedd ein bod ni’n dechrau rhoi blaenoriaeth wirioneddol i addysg pobol ifanc.”