Roedd bron i chwarter (23%) o ddisgyblion ysgol Cymru’n absennol yn ystod wythnos olaf y tymor, meddai ystadegau newydd gan Lywodraeth Cymru.
Rhwng 12 ac 16 Gorffennaf, roedd 8.6% o ddisgyblion yn absennol oherwydd rhesymau’n ymwneud â Covid-19.
Ar gyfartaledd, roedd 6% o ddisgyblion oedran cynradd yn absennol am y rheswm hwnnw, a 13% o ddisgyblion uwchradd.
Hyd at ganol mis Mehefin, roedd absenoldebau oherwydd rhesymau’n gysylltiedig â Covid-19 yn debyg ymysg disgyblion cynradd ac uwchradd.
Wedi hynny, dechreuodd absenoldebau ymysg disgyblion uwchradd gynyddu ar gyfradd gyflymach.
Dangosa’r data fod canran y disgyblion uwchradd oedd yn absennol ddwy neu dair gwaith yn uwch erbyn mis Gorffennaf, o gymharu â disgyblion cynradd.
Ymhlith disgyblion oedran ysgol statudol, roedd canran y disgyblion oedd yn bresennol yn ystod yr wythnos olaf ar ei huchaf ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 (87%).
Absenoldeb cyn yr wythnos olaf
Ers 12 Ebrill, mae 12% o ddisgyblion (55,600) wedi bod yn absennol am fwy nag wythnos o ddysgu wyneb yn wyneb oherwydd rhesymau’n ymwneud â Covid-19.
O gymharu, mae 45% o ddisgyblion (213,100) wedi bod yn absennol am fwy nag wythnos am unrhyw reswm.
Mae achosion positif mewn ysgolion wedi golygu bod rhaid i grwpiau cyswllt hunanynysu hefyd, ond o fis Medi ymlaen ni fydd rhaid i ysgolion a cholegau sicrhau grwpiau cyswllt.
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, ond rhai a gafodd eu cynhyrchu’n gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol, meddai Llywodraeth Cymru.