Mae merch 16 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth y ferch, na ellir cyhoeddi ei henw oherwydd ei hoedran, ymddangos yn Llys Ieuenctid Caerdydd brynhawn heddiw (28 Gorffennaf).

Mae’r ferch yn un o dri o bobl sydd wedi’u cyhuddo yn dilyn ymosodiad ym Mharc Bute, Caerdydd wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth Jason Edwards, 25, a Lee William Strickland, 36, y ddau o Gaerdydd, ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun (26 Gorffennaf).

Cafodd y ferch ei harestio yn ardal Creigiau yng Nghaerdydd nos Lun (26 Gorffennaf) a’i chadw yn y ddalfa.

Mae dyn 54 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn yr ymosodiad tua 1yb ddydd Mawrth, 20 Gorffennaf, meddai Heddlu De Cymru.

Yr achos

Siaradodd y ferch i gadarnhau ei henw, ei chyfeiriad a’i dyddiad geni yn unig yn ystod y gwrandawiad byr.

Ni wnaeth hi awgrymu pa ffordd y byddai’n pleidio i’r cyhuddiad yn ei herbyn, ac ni chafodd cais ei wneud iddi gael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Bydd y ferch yn aros mewn llety cadw ieuenctid nes y bydd hi’n ymddangos yn y llys eto.

“Byddi di’n cael dy anfon i lety diogel er mwyn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 23 Awst ar gyfer y gwrandawiad cyntaf,” meddai cadeirydd mainc yr Ynadon, Jane Anning, wrthi.

Bydd Jason Edwards a Lee Strickland yn ymddangos yn y llys ar yr un diwrnod.

Apelio am wybodaeth

Mae Heddlu De Cymru yn parhau apelio am unrhyw wybodaeth am y digwyddiad.

“Waeth pa mor fach y mae’r wybodaeth yn ymddangos, gallai fod yn hanfodol i’n hymchwiliad,” meddai’r Ditectif Brif-Arolygydd, Stuart Wales.

“Yn benodol ry’n ni eisiau clywed gan unrhyw un oedd ym Mharc Bute yn ystod oriau man fore dydd Mawrth, 20 Gorffennaf.

“Ry’n ni eisiau siarad gydag unrhyw un oedd wrth ymyl pont droed y Mileniwm sy’n cysylltu Parc Bute a Gerddi Soffia, rhwng hanner nos a 1.20yb.”