Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi gwadu y bydd newidiadau i’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol yn ‘ymyrryd’ â hawliau newyddiadurwyr ymchwiliadol.

Wrth siarad ar LBC Radio fe ddywedodd nad oedd am weld newyddiadurwyr yn cael eu herlyn am newyddiaduraeth ymchwiliadol yn dilyn pryderon y gall ymgynghoriad o’r Ddeddf Cyfrinachedd Swyddogol gwtogi ar hawliau newyddiadurwyr.

Mae yna bryderon y gallai ymgynghoriad gan y Swyddfa Gartref i ddiweddaru Deddf 1989 arwain at newyddiadurwyr ymchwiliol wynebu dedfrydau carchar o hyd at 14 mlynedd.

“Dydw i ddim eisiau gweld byd lle mae pobl yn cael eu herlyn am wneud yr hyn maen nhw’n meddwl yw eu dyletswydd gyhoeddus” meddai Boris Johnson.

“Rwy’n llawn edmygedd o’r ffordd y mae newyddiadurwyr yn gyffredinol yn ymddwyn.”

Fodd bynnag, mae un newyddiadurwr profiadol wedi dweud wrth golwg360 fod y cam yn un “peryglus a phryderus”.

‘Dan fygythiad’

Fe fuodd Tyweli Griffiths yn gyflwynydd ar raglen Y Byd ar Bedwar ar S4C ac mae’n poeni am ddyfodol newyddiaduraeth ymchwiliadol.

“Yn bendant byddai newyddiaduraeth ymchwiliadol dan fygythiad os ydyn nhw [Y Swyddfa Gartref] yn bwrw ymalen gyda rhywbeth fel hyn sy’n gam peryglus a phryderus.” meddai wrth Golwg 360.

“Mae’n nodweddiadol o lywodraethau i geisio cuddio’r gwirionedd ac rydyn ni wedi gweld sawl enghraifft o hynny gyda llywodraeth Boris Johnson oherwydd newyddiaduraeth dda”

“Mae’r math hwn o newyddiaduraeth yn ddrud”

“Does dim shwt beth â gormod o newyddiaduraeth ymchwiliadol, ac mae e wastad wedi bod yn bwysig ddim just yn oes y pandemig” meddai Tyweli Griffiths.

“Y pryder yw bod mwy a mwy o gwmnïau newyddiadurol yn defnyddio’r chwyldro digidol fel esgus i wario llai ar newyddiaduraeth ymchwiliadol.

“Mae’r math hwn o newyddiaduraeth yn ddrud ac mae angen adnoddau costus i sicrhau bod newyddiaduraeth ymchwiliadol yn cael ei gwneud yn iawn.

“Mae’n llawer mwy anodd pan fyddwn yn clywed am lywodraethau a’r Swyddfa Gartref yn ceisio rhwystro newyddiadurwyr rhag gwneud eu gwaith.”

Matt Hancock

Dywedodd papur newydd The Sun y gallai straeon fel y rhai am berthynas Matt Hancock â’i gynorthwy-ydd, a dorrodd reolau ymbellhau cymdeithasol gan arwain at ei ymddiswyddiad fel ysgrifennydd iechyd, gael eu heffeithio pe bai’r newidiadau’n cael eu cyflwyno.

Er i Boris Johnson wadu y gallai’r cam gwtogi ar hawliau newyddiadwyr ymchwiliadol, mae’n mynnu y dylai’r broses barhau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Dechreuwyd yr ymgynghoriad gyda phwrpas, felly byddwn yn gwrando’n agos ar yr adborth ac fe fyddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau maes o law.”