Mae rheoliadau newydd ynghylch gollwng slyri i afonydd wedi corddi’r dyfroedd go-iawn, a ffermwyr yn mynd yn erbyn y lli gan bwyso ar Lywodraeth Cymru am dro pedol trwy fynd i’r Uchel Lys.

Ar hyn o bryd mae’r rheolau’n cyfyngu ar y defnydd o slyri – sef cymysgedd o ddŵr a charthion anifeiliaid –  ledled y wlad trwy osod y genedl gyfan dan ‘Barth Perygl Nitradau’, neu NVZ’s, a ddaeth i rym ar ddechrau mis Ebrill.