Hwyrach fod Neil McEvoy wedi methu gyda’i ymgais i ddiorseddu Mark Drafeford yn etholiad fis Mai, ac wedi gorfod gadael y Senedd, ond mae o’n parhau yn y newyddion.

Ddechrau’r wythnos fe ddaeth hi i’r fei bod nifer y cwynion am Aelodau o’r Senedd wedi bron dyblu – fyny o 106 yn 2019 i 216 yn 2020.

Ac roedd 97 o’r cwynion y llynedd yn ymwneud â Neil McEvoy.