Mae dau ddyn wedi bod gerbron llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn ym Mharc Biwt yng  Nghaerdydd.

Mae’r dyn 54 oed yn parhau i fod ar beiriant cynnal bywyd yn dilyn yr ymosodiad ger Gerddi Soffia tua 1yb fore dydd Mawrth, 20 Gorffennaf.

Fe fu Jason Edwards, 25, o Lan yr Afon, Caerdydd, a Lee William Strickland, 36, sydd heb gyfeiriad parhaol, gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (Dydd Llun, 26 Gorffennaf). Nid oedd y ddau wedi cyflwyno ple i’r cyhuddiad.

Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd ar 23 Awst.