Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio i edrych ar effaith newidiadau mewn polisi masnach ac amgylcheddol ar ffermydd teuluol.

Bwriad yr ymchwiliad gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan yw archwilio newidiadau i bolisïau megis polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fasnach ryngwladol a chytundebau masnach rydd, yn ogystal â deddfwriaethau’n ymwneud â newid hinsawdd.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar sut mae’r meysydd polisi hyn yn debygol o effeithio ar gysylltiadau cymdeithasol a thraddodiadol mewn cymunedau amaethyddol.

Bydden nhw hefyd yn ystyried be ellir ei wneud i gefnogi cymunedau, a’u diwylliant a’u treftadaeth.

Fel rhan o’r ymchwiliad byr, bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ‘ffermydd teuluol’, sef ffermydd bach a chanolig eu maint, megis ffermwyr mynydd, yn hytrach na ffermydd mawr o faint diwydiannol.

Mae’r Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth yn ymateb i gwestiynau’n ymwneud â pha mor unigryw yw ffermydd teuluol a pha mor arwyddocaol yw eu cyfraniad at fywyd diwylliannol Cymru, ac yn gofyn i bobol ystyried yr heriau sy’n wynebu ffermydd teuluol.

Maen nhw hefyd yn gofyn am dystiolaeth ynghylch beth yw goblygiadau posib cytundebau masnach rydd i ffermwyr yng Nghymru, a sut mae polisi newid hinsawdd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn effeithio arnyn nhw.

Ynghyd â hynny, mae’r ymgynghoriad yn holi pa gamau ymarferol gall Lywodraeth y Deyrnas Unedig eu cymryd i gefnogi’r cymunedau hyn, a sut ddylai llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru gydweithio i gefnogi treftadaeth a diwylliant unigryw y cymunedau hyn, gan gynnwys eu cyfraniad i’r iaith Gymraeg.

Rhaid cyflwyno’r dystiolaeth erbyn 24 Medi.

“Deall yr effaith”

“Mae cytundebau masnach ryngwladol ac agenda uchelgeisiol parhaus o ran yr amgylchedd wedi dominyddu rhan helaeth o bolisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf,” meddai Stephen Crabb, yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Benfro Preseli a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn deall yr effaith maent yn eu cael ar bobl a chymunedau cyffredin sydd ond yn ceisio ennill bywoliaeth.

“Rhaid sicrhau bod pawb yn buddio o’r datblygiadau hyn mewn polisi, ac wrth edrych ar yr effaith ar ffermydd teuluol, rydym yn gobeithio taflu goleuni ar sut all gymunedau ffynnu am genedlaethau a sut y gellir diogelu eu bywoliaeth.”

“Pryderon difrifol”

“Rwy’n gwybod bod gan deuluoedd yng Ngheredigion bryderon difrifol am effaith rhai penderfyniadau polisi a wneir yn San Steffan a Chaerdydd, a’r hyn y gallent ei olygu ar gyfer dyfodol ardaloedd gwledig,” ychwanegodd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, sy’n aelod o’r Pwyllgor.

“Rwy’n falch eu bod yn cael cyfle, drwy’r ymchwiliad hwn, i leisio eu barn a rhannu unrhyw bryderon a allai fod ganddynt ynglŷn â goblygiadau strategaeth fasnach y Deyrnas Unedig ar ddyfodol ffermio Cymru.”