Mae cwmni Haven wedi cadarnhau bod achosion o Covid-19 ymhlith aelodau staff parc gwyliau Hafan y Môr ger Pwllheli.

Yn ôl y cwmni, mae nifer fechan o weithwyr wedi profi’n bositif ac mae eraill yn gorfod hunanynysu.

O ganlyniad, maen nhw wedi gorfod addasu amseroedd agor rhai o’u bariau.

Er hynny, mae’r cwmni wedi cadarnhau nad ydyn nhw wedi cael gwybod bod unrhyw westai wedi profi’n bositif ar ôl gadael Hafan y Môr.

“Diogelwch yn flaenoriaeth”

“Ers dechrau’r pandemig, mae Haven wedi cymryd nifer o gamau er mwyn sicrhau fod diogelwch gwesteion, perchnogion a thimau’n parhau’n flaenoriaeth,” meddai llefarydd ar ran Haven.

“Rydyn ni’n ymwybodol fod llond llaw o’n tîm cryf o 500 aelod yn Hafan y Môr wedi profi’n bositif am Covid-19 yn ddiweddar.

“Dyw’r achosion ddim yn gysylltiedig, ond o ganlyniad mae ambell aelod arall o’r tîm yn hunanynysu ar hyn o bryd, yn unol â chanllawiau gan Wasanaeth Profi ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“O ganlyniad i’r mesurau hunanynysu, rydym ni wedi gorfod addasu amseroedd agor rhai o’n bariau dros dro.

“Rydyn ni wastad wedi bod yn rheoli’r rhain yn unol â lle mae ein gwesteion yn dymuno treulio amser, ac mae rhai o’n cyfleusterau bwyta wedi bod ar agor yn y parc drwy gydol yr amser.

“Rydyn ni’n gwybod fod hwn yn amser heriol i’r ardal, gyda nifer o fusnesau lleol yn gorfod cau ar y funud gan fod eu timau’n gorfod hunanynysu.”

“Rydyn ni wedi cadw at bob mesur yn llawn, ac mae’r risg i bobol ar eu gwyliau a pherchnogion yn isel. Mae’r holl wyliau sydd wedi’u bwcio dal yn digwydd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobol ar eu gwyliau.”