Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau i’r rhan fwyaf o Gymru.

Bydd y rhybudd mewn grym am 09:00 ddydd Mawrth (27 Gorffennaf) ac yn parhau tan 06:00 fore Mercher (28 Gorffennaf).

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae posibilrwydd o 20-30mm o law mewn awr neu ddwy.

Ac mewn llefydd eraill, mae’n bosib y bydd hyd at 60mm o fewn tair i chwe awr.

Mae’n debyg y bydd mellt, taranau a chenllysg hefyd yn effeithio rhai rhannau o’r wlad.

Bydd rhybudd melyn mewn grym yn y siroedd canlynol:

  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Wrecsam