Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am adolygiad llawn o’r penderfyniad i werthu ffatri Wafer Fab yng Nghasnewydd i gwmni yn Tsieina.

Daw sylwadau Natasha Asghar, llefarydd technoleg y blaid, wrth ymateb i rybuddion cyn-ymgynghorydd Prydain ar ddiogelwch seibr am y gwerthiant.

Wrth siarad â’r Telegraph, dywed Ciaran Martin y gallai gwerthu’r ffatri, sy’n cynhyrchu meicrosglodion, i’r cwmni yn Tsieina fod yn fwy peryglus i fuddiannau Prydain na rhan Huawei yn y rhwydwaith 5G.

Yn ôl Ciaran Martin, mae dyfodol cyflenwi meicrosglodion “o’r pwys mwyaf”.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi gofyn i Syr Stephen Lovegrove, yr Ymgynghorydd ar Ddiogelwch Cenedlaethol, ymchwilio i’r mater, ac mae nifer o aelodau seneddol wedi codi pryderon.

Byddai’r cytundeb, sy’n werth £63m yn ôl adroddiadau, yn golygu bod y cwmni Nexperia o’r Iseldiroedd, sy’n eiddo i gwmni technoleg busnes o Tsieina, yn rheoli’r ffatri.

Sylwadau “brawychus”

“Tra fy mod i’n croesawu busnesau sy’n ffynnu a chreu swyddi yn fy rhanbarth, mae yna bryderon gwirioneddol, dilys dros werthu cynhyrchydd meicrosglodion silicon mwyaf y Deyrnas Unedig i gwmni o Tsieina,” meddai Natasha Asghar.

“Mae sylwadau Mr Martin am Wafer Fab yng Nghasnewydd a dylanwad Tsiena yn frawychus, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod cwmnïau technoleg ein gwlad yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu cymryd drosodd gan gwmnïau o dramor pan mae yna risg real, gwirioneddol i ddiogelwch economaidd a chenedlaethol.

“Mae penderfyniad y Prif Weinidog i benodi’r ymgynghorydd Diogelwch Cenedlaethol i archwilio’r pryniant yn un cywir, a rhaid adolygu’r oblygiadau diogelwch yn llawn er mwyn sicrhau nad yw ein ffatri fwyaf sy’n cynhyrchu lled-ddargludyddion yn disgyn i gwmni, sy’n cael ei redeg gan y wladwriaeth, gydag amcanion amheus o bosib.”

Yn gynharach y mis yma, roedd adroddiad yn galw am adolygiad swyddogol i’r gwerthiant.

Ar y pryd, dywedodd Tom Tugendhat, cadeirydd un o bwyllgorau San Steffan, fod gan Tsieina “record o ddefnyddio buddsoddiadau tramor i gael mynediad i dechnolegau a gwybodaeth bwysig”.

“Rydyn ni wedi gweld gormod o gwmnïau technoleg gwych ein gwlad yn diflannu dramor gyda goblygiadau economaidd a pholisi tramor arwyddocaol posib,” meddai.

Gwerthu gwneuthurwr meicrosglodyn o Gymru’n ‘fwy peryglus i fuddiannau Prydain na Huawei’

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi gofyn i’r Ymgynghorydd Diogelwch Cenedlaethol Syr Stephen Lovegrove ymchwilio i werthiant Wafer Fab