Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, o ragrith.

Daw hyn ar ôl iddo feirniadu cynnig codiad cyflog 3% Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, er bod Llywodraeth Cymru yn cynnig yr un cynnydd.

Wrth ymddangos ar sioe LBC Nick Ferrari fore heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 26), dywedodd Syr Keir Starmer nad yw’r codiad cyflog “yn ddigonol nac yn deg” a bod “Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi trin staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wael iawn, iawn”.

Fodd bynnag, mae Andrew RT Davies yn tynnu sylw at y ffaith fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi penderfynu rhoi’r un cynnydd o 3% i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y rhai yn Lloegr.

Roedd y ddau yn cyd-fynd ag argymhelliad Corff Adolygu Cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion.

‘Gwrthddweud’

“Yn anffodus nid dyma’r tro cyntaf i arweinydd Llafur y Deyrnas Unedig, wrth geisio ennyn pennawd rhad, wrthddweud ei blaid ei hun yng Nghymru,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae gwneud hynny ar y mater pwysig ac emosiynol hwn yn dangos bod Starmer naill ai’n anwybodus o’r un Llywodraeth Lafur ym Mhrydain neu’n hapus i greu dryswch ymhlith pleidleiswyr.

“Mae hyn ei hun yn codi’r cwestiwn a yw Llafur mewn gwirionedd yn credu bod y codiad cyflog yn annigonol neu wedi dewis chwarae gwleidyddiaeth sinigaidd.”