Mae Bwyd Cymru Bodnant wedi cael ei enwi’n Enillydd Rhanbarthol Cymru yn y Gwobrau Manwerthwyr Siopau Fferm a Delis 2021.
Mae’r siop fferm deuluol yn Nyffryn Conwy yn un o naw enillydd rhanbarthol a 30 o fanwerthwyr sydd wedi cael cymeradwyaeth o restr fer o 153 o fanwerthwyr arbenigol ledled y Deyrnas Unedig.
Prynodd Richard a Cathryn Reynolds, gyda’u dwy ferch Olivia, 24, a Tilly, 20, gwmni Bwyd Cymru Bodnant ym mis Rhagfyr 2018.
Agorodd y busnes ar Chwefror 1, 2019 ar ôl iddyn nhw adnewyddu’r siop fferm, troi’r ystafelloedd te yn fwyty, tra bod hen fwyty’r Hayloft bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill.
Ar hyn o bryd, maen nhw’n cyflogi 50 aelod o staff.
“Fformat gwahanol”
Eleni, roedd fformat gwahanol i’r gwobrau, sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth â The Grocer ac a gafodd eu noddi gan Bwyd a Diod Cymru a Garofalo.
Roedd hyn er mwyn rhoi cydnabyddiaeth i fanwerthwyr am eu hymrwymiad i gwsmeriaid, y gymuned, staff a chyflenwyr trwy gydol y pandemig.
Felly, cafodd yr enillwyr eu henwi yn rhanbarthol yn hytrach nag yn ôl categori fel o’r blaen.
Fe wnaeth y beirniaid ganmol Bwyd Cymru Bodnant am “gamu y tu hwnt i’r hyn rydym ni nawr yn disgwyl eu gweld o ganlyniad i Covid gan gynnwys iechyd a lles”.
‘Cynnyrch Cymreig’
“Rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon, mae’n wych i ni a’n proffil,” meddai Richard Reynolds, rheolwr gyfarwyddwr Bwyd Cymru Bodnant.
“Mae wedi bod yn amser anhygoel i ni, mae llawer iawn wedi digwydd ac rydym ni wedi dysgu llawer am y busnes a’n cyflenwyr.
“Rydym ni’n defnyddio tua 81% o gynnyrch Cymreig yn y busnes.
“Mae gennym ni fecws mewnol ac rydym ni wedi gorfod cyflogi dau bobydd newydd i ymdopi â’r galw.
“Mae ein cig i gyd yn dod o ffynonellau lleol ac rydym ni’n paratoi ein byrgyrs a’n selsig i’w gwerthu yn y siop fferm a’u defnyddio yn ein bwytai.
“Fel llawer o fusnesau dros y 15 mis diwethaf, roedd yn rhaid i ni addasu’r busnes yn ystod pandemig Covid-19, agorom ni siop ar-lein a gwasanaeth dosbarthu i’r cartref a oedd yn llwyddiant ysgubol.
“Mae nifer yr ymwelwyr bellach yn cynyddu ac mae’n wych croesawu cwsmeriaid yn ôl i Fodnant.
“Rydym ni’n gwerthfawrogi ein cymuned, cyflenwyr a siopwyr lleol ac yn falch o gael ein cydnabod fel cwmni disglair yn ein hardal.”
‘Gwaith caled ac ymrwymiad’
Wrth drafod llwyddiant Bodnant, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig a gogledd Cymru Llywodraeth Cymru a’r Trefnydd ei bod hi am “longyfarch Bwyd Cymru Bodnant ar ei lwyddiant yn y Gwobrau Manwerthwyr Siopau Fferm a Delis”.
“Mae’n wych gweld ein busnesau bwyd yn gwneud cystal ag yn cael eu cydnabod am y gwaith caled a’r ymrwymiad maen nhw wedi’i roi i adeiladu’r busnes eto, yn enwedig yn ystod cyfnod mor anodd,” meddai.
“Mae Cymru yn lle gwych i fusnesau bwyd a diod sefydlu eu hunain a gwreiddio yn ein cymunedau.
“Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Fodnant yn y dyfodol.”