Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio a’u cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A yn ardal Dyfed-Powys.
Fel rhan o ymchwiliad i droseddau cyfundrefnol gan gang yn cyflenwi cyffuriau o Lundain i Aberystwyth, Llanelli ac Abertawe, fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys arestio’r pedwar ar Orffennaf 21 gyda chefnogaeth Heddlu Llundain.
Cafodd Mohammed Osman (23), Yonis Mohammed (20), Salman Mohamoud (23) – i gyd o Islington yn Llundain – ac Amy Simmonds (21) o Dulwich eu cyhuddo o 12 trosedd.
- Mohammed Osman: dau gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi heroin, a dau gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi crac cocên.
- Yonis Mohammed: dau gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi heroin, a dau gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi crac cocên.
- Salman Mohamoud: cynllwynio i gyflenwi heroin a chynllwynio i gyflenwi crac cocên.
- Amy Simmonds: cynllwynio i gyflenwi heroin a chynllwynio i gyflenwi crac cocên.
Aeth y pedwar gerbron ynadon Llanelli ddydd Gwener (Gorffennaf 23), ac maen nhw’n dal i fod yn y ddalfa.
Byddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Abertawe ar Awst 20 ar gyfer y gwrandawiad nesaf.
“Gweithio’n ddiwyd”
Mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Dîm Troseddau Difrifol a Threfnedig Ceredigion, Adran Ymchwilio Troseddau Aberystwyth ac Ymchwiliad Orochi dan Heddlu Llundain.
“Roedd y pedwar arestiad a chyhuddiad yn ganlyniad i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol gan gangiau yr ydym ni’n credu sy’n rhedeg llinellau cyffuriau mewn i ardal llu Heddlu Dyfed-Powys,” meddai’r Ditectif Ringyll Steve Jones.
“Byddwn ni’n parhau i weithio’n ddiwyd i darfu ar y mathau hyn o gangiau, ac atal sylweddau anghyfreithiol rhag cael eu cyflenwi i’n cymunedau.
“Hoffwn ddiolch i bob plismon oedd ynghlwm, yn ogystal â Heddlu Llundain am eu rhan yn yr ymchwiliad.”