Mae’n debyg mai ysgolion yn cau am yr haf yw un o’r rhesymau dros y gostyngiad yn nifer yr achosion Covid-19 ar draws y Deyrnas Unedig, yn ôl arbenigwr.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion newydd o Covid-19 yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng am y pumed diwrnod yn olynol.

Cafodd 29,173 o achosion eu cofnodi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn yr wythnos hyd at ddydd Sul (Gorffennaf 25), a oedd bron i 20,000 yn llai na’r wythnos flaenorol.

Er hynny, mae’n rhy fuan i’r data ddangos effaith llacio’r cyfyngiadau yn Lloegr ar Orffennaf 19.

Dywed Dr Mike Tildesley, aelod o grŵp SPI-M sy’n cynghori gweinidogion ar bandemigau ffliw, ei fod yn “ofalus optimistaidd” am nifer yr achosion yn gostwng ond mai amser a ddengys a fydd y drydedd don o Covid yn “newid cyfeiriad”.

Ysgolion yn cau am yr haf

Wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd fod unrhyw sefyllfa lle mae achosion yn lleihau yn amlwg yn “newyddion da”.

“Rwy’n credu mai’r hyn sydd angen i ni feddwl amdano, serch hynny, yw bod newidiadau wedi bod yn ddiweddar ac yr un mawr yw bod ysgolion ar draws y wlad wedi cau am yr haf,” meddai.

“Mae plant ysgolion uwchradd wedi bod yn gwneud profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos ers cyfnod eithaf hir ac rydyn ni wedi gweld bod achosion ychydig yn uwch ymhlith pobol iau.

“Oherwydd bod ysgolion bellach wedi cau am yr haf, efallai mai rhan o’r rheswm y mae achosion wedi gostwng rhywfaint yw nad oes modd canfod cymaint o achosion mewn pobol iau nawr.

‘Gobeithiol iawn’

Eglura Dr Tildesley fod rhaid edrych ar y sefyllfa mewn ysbytai, sy’n cymryd rhai wythnosau i adlewyrchu nifer yr achosion yn y gymuned.

“Y peth arall sydd angen i ni edrych arno cyn i ni fod yn hyderus fod popeth yn newid cyfeiriad yw sefyllfa derbyniadau i’r ysbyty a’r sefyllfa o ran marwolaethau,” meddai.

“Mae’r oedi rhwng heintiau a derbyniadau i’r ysbyty yn golygu bod derbyniadau’n debygol o barhau i godi yn y dyddiau nesaf waeth beth yw nifer yr achosion.

“Mae’r ffaith fod yr achosion wedi gostwng am y pum diwrnod diwethaf yn obeithiol iawn, ond rwy’n credu y bydd yn rhaid i ni aros cwpwl o wythnosau cyn i ni weld effaith llacio’r cyfyngiadau ac a fydd derbyniadau i’r ysbyty yn dechrau gostwng.

“Rwy’n credu os gwneith hynny digwydd, gallwn fod yn llawer mwy hyderus ein bod yn dechrau gweld y don nesaf yn newid cyfeiriad.”