Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn dweud bod rhoi codiad cyflog o 3% i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd “yn annheg”.
Wrth siarad â gorsaf radio LBC, dywedodd ei fod yn cefnogi cynnal ymgynghoriadau gyda gweithluoedd er mwyn i undebau gasglu barn ar y mater.
Mae BMA wedi lansio holiadur heddiw (dydd Llun, Mehefin 26), er mwyn casglu barn uwch feddygon yn Lloegr.
Bydd yr holiadur ar agor nes Awst 16, a bydd y canlyniadau’n penderfynu a oes angen cynnal pleidlais ffurfiol ar y mater, ac mae’r undeb wedi dweud y bydd ymgynghoriad tebyg yn cael ei gynnal gyda meddygon iau.
Codiad cyflog o 3% mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, hefyd, ac mae BMA Cymru wedi dweud y bydden nhw’n ymgynghori â’u haelodau.
Dywed Dr Vishal Sharma, cadeirydd pwyllgor ymgynghorwyr cymdeithas feddygol y BMA, fod y codiad cyflog o 3% “yn dangos unwaith eto cyn lleied mae’r Llywodraeth yn gwerthfawrogi ymrwymiad ac arbenigedd ymgynghorwyr yn Lloegr”.
“Mae’n peri pryder gweld adroddiad god y Llywodraeth yn awgrymu ariannu’r codiad hwn gyda chronfa bresennol y Gwasanaeth Iechyd a thrwy gynnydd posib mewn Yswiriant Gwladol,” meddai.
“Dyw hyn ddim yn unig yn golygu bod staff yn talu’n rhannol am eu codiad cyflog eu hunain, ond dylai unrhyw godiad gael ei ariannu’n llawn gan y Llywodraeth ac ni ddylai arwain at doriadau mewn rhannau eraill o’r Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol.”
Dywed llefarydd ar ran Boris Johnson, prif weinidog Prydain, y bydd y codiad cyflog yn cael ei ariannu o’r tu mewn i gronfa’r Gwasanaeth Iechyd, ond eu bod nhw’n glir iawn na fydd hynny’n effeithio’r arian sydd wedi cael ei ddyrannu’n barod i reng flaen y gwasanaeth.
‘Rhaid gwneud mwy’
Dydi Trysorlys y Deyrnas Unedig ddim wedi darparu gwybodaeth hyd yma ynghylch a fydd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i dalu costau’r codiad cyflog yng Nghymru, medd Llywodraeth Cymru.
Er hynny, dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yr wythnos ddiwethaf y bydd cyllidebau yn cael eu blaenoriaethu er mwyn galluogi’r fargen.
Mae sawl undeb sy’n cynrychioli gweithwyr iechyd yng Nghymru, megis BMA Cymru, Unison Cymru, TUC a GMB, wedi beirniadu’r codiad cyflog.
“Wrth i ni ddechrau mynd i’r afael â’r rhestrau aros hiraf ar record, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a chyflogwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wneud mwy i gefnogi gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol; gan weithio gyda ni i gynnig gwasanaethau gofal sylfaenol sy’n cael eu hariannu’n iawn, gwell recriwtio a chadw pobol yn y swydd, cyfleusterau seibiant a gwasanaethau llesiant er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu rhoi’r gofal hanfodol sydd ei angen yng Nghymru,” meddai BMA Cymru.
“Os ydyn ni’n methu ag edrych ar ôl y gweithlu amhrisiadwy hwn, byddwn ni’n methu â pharhau i gynnig y gofal safon uchel yr ydyn ni am ei darparu i gleifion.”
“Neb eisiau gweld streic”
Mae rhai undebau, megis Unite, wedi galw am godiad cyflog o 15%, a phan gafodd Syr Keir Starmer ei holi am ei farn ar hynny, dywedodd y byddai’n rhaid dod i gytundeb drwy drafod.
“Byddai’n rhaid i hynny gael ei drafod – mae 15% yn uchel – ond dw i’n meddwl fod yr hyn mae undebau’n ei wneud nawr yn iawn,” meddai.
“Does neb eisiau gweld streic yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
‘Streicio pe bai angen’ medd un nyrs y Gwasanaeth Iechyd