Roedd bron i hanner y cwynion a gafwyd y llynedd ynghylch Aelodau o’r Senedd yn ymwneud ag un aelod.
Bu cynnydd o 106 i 216 cwyn ers y flwyddyn flaenorol, yn ôl adroddiad blynyddol gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd.
Roedd bron i hanner y cwynion, 97 ohonyn nhw, yn ymwneud â Neil McEvoy.
Mae Neil McEvoy, a gafodd ei ethol fel aelod Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru yn 2016, wedi cwestiynu tryloywder y broses safonau wrth ymateb.
Roedd yn aelod annibynnol wedi hynny, cyn colli ei sedd yn yr etholiad fis Mai eleni.
Roedd 72% o’r cwynion a dderbyniodd y Comisiynydd Safonau rhwng Ebrill y llynedd a Mawrth eleni yn ymwneud â methiant i ddatgan neu gofrestru buddiannau, neu ymddygiad Aelod o’r Senedd ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cafodd cwynion derbyniadwy eu gwneud yn erbyn wyth allan o 60 Aelod o’r Senedd, ac roedd 89 o’r 216 cwyn yn annerbyniadwy am resymau megis diffyg tystiolaeth.
“Rhif uchaf o bell ffordd”
“Mae’r record uchel yn nifer y cwynion yn dangos eto fod y cyhoedd yn craffu’n fanwl ar ymddygiad aelodau,” meddai Douglas Bain, y Comisiynydd Safonau.
“Pan fo’r cyhoedd yn credu nad yw aelod wedi cyrraedd y safon ymddygiad uchel sy’n ofynnol, mae’n iawn gwneud cwyn a’i fod yn cael ei ymchwilio gan gomisiynydd safonau annibynnol.
“Yn ystod y flwyddyn, cafodd 216 o gwynion newydd eu derbyn a dyma’r rhif uchaf o bell ffordd ers i swyddfa’r comisiynydd gael ei sefydlu yn 2009.
“Wedi dweud hynny, dw i’n fodlon fod bron iawn pob un aelod yn parhau i gadw at y safon ymddygiad uchel y mae disgwyl iddyn nhw gadw ati.”
Ni chafodd yr un o’r chwe chwyn a gafodd eu gwneud gan Neil McEvoy yn erbyn aelodau eraill eu hystyried yn dderbyniadwy, ac “yn ddiamau fe’u gwnaed mewn ymgais i sgorio pwyntiau gwleidyddol”, meddai Douglas Bain.
“Aeth Mr McEvoy â llawer iawn o fy amser ac wrth gwrs gwastraffodd hynny lawer iawn o arian cyhoeddus,” meddai wrth BBC Cymru.
“Haeddu cymaint gwell”
Wrth ymateb i’r adroddiad, cwestiynodd Neil McEvoy dryloywder y broses safonau a’r ffordd gafodd yr apeliadau eu trin, gan ddweud ei bod hi’n “anodd” cymryd y bobol sydd ynghlwm â’r broses “o ddifrif”.
“Mae Cymru’n haeddu cymaint gwell,” meddai.
Mae’r Comisiynydd Safonau yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion am ymddygiad Aelodau o’r Senedd.
Cafodd Douglas Bain ei benodi i’r swydd dros dro ym mis Tachwedd 2019 yn dilyn ymddiswyddiad Syr Roderick Evans, a chafodd ei benodi i’r rôl am chwe blynedd ym mis Mawrth eleni.