Mae adroddiad blynyddol Douglas Bain, Comisiynydd Safonau dros dro Senedd Cymru, wedi dweud bod nifer fach o Aelodau’r Senedd yn defnyddio’r Comisiynydd Safonau fel “arf gwleidyddol”.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gwelwyd cynnydd o 147% yn y nifer o gwynion.
O ganlyniad i hyn bu rhaid i Douglas Bain gyflogi aelod ychwanegol o staff a dyma yw’r “prif reswm” am y cynnydd yng nghostau’r swyddfa o £76,384 yn 2018/19 i £156,460 yn 2019/20.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Douglas Bain, fod ganddo “ddim bwriad” i atal Aelodau’r Senedd rhag cwyno am ei gilydd.
Ond ychwanegodd: “Dylai unrhyw gamddefnydd o’r broses gael ei atal.”
Ymhlith y cwynion ddaeth i law, daeth saith ohonynt o Aelodau Annibynnol, tri gan Aelodau Llafur Cymru, dau gan Aelodau Plaid Cymru ac un gan aelod o Blaid Brexit.
O’r cwynion hynny, roedd chwech yn erbyn ASau Llafur Cymru, roedd tri yn erbyn aelodau o’r blaid Brexit, dau yn erbyn ASau annibynnol, ac roedd un yn erbyn aelod o Blaid Cymru.
Ac yn ôl Douglas Bain, mae nifer fach o ASau hefyd yn defnyddio aelodau o’r cyhoedd i wneud cwynion ar eu rhan.
63 yn fwy o gwynion
Cynyddodd nifer y cwynion yn erbyn ASau o 43 i 106 – y nifer uchaf ers i Swyddfa’r Comisiynydd gael ei chreu.
Daeth y Comisiynydd i’r casgliad nad oedd angen ymchwiliad pellach i 84 o’r cwynion yma – roedd 53 o’r rhain am ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.
Roedd 37 o gwynion yn cyfeirio at ddefnydd AS o ddelweddau’r Natsïaid adeg etholiadau Senedd Ewrop, tra bod deg arall yn ymwneud â beirniadaeth AS o ymgyrchydd hinsawdd Greta Thunberg ar gyfryngau cymdeithasol.
Hawl i gwyno
“Os yw aelodau’r cyhoedd yn wirioneddol gredu bod aelod o’r Senedd yn euog o gamymddwyn, mae’n bwysig ei bod nhw’n gallu cwyno a bod y mater hwnnw yn cael ei ystyried gan Gomisiynydd gwbl annibynnol” meddai Douglas Bain.
Ond dywedodd Mr Bain ei fod yn bwriadu creu canllaw newydd dros y flwyddyn nesaf i egluro beth gall y Comisiynydd ddelio ag ef a beth na all ddelio ag ef.