Mae arolwg barn YouGov a gynhaliwyd ar ran YesCymru yn dangos fod pobol yn Lloegr yn credu bod y Llywodraethau Datganoledig wedi delio gyda’r pandemig yn well na Llywodraeth Boris Johnson.
Roedd 41% yn teimlo bod Llywodraeth San Steffan wedi delio â’r argyfwng yn dda, tra bod 50% yn credu fod Llywodraeth Cymru wedi delio â’r argyfwng yn dda.
Yn ôl yr arbenigwr gwleidyddol, Dr Dafydd Trystan: “Mae’r canlyniadau o Loegr ar berfformiad cymharol pedair llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn eithaf rhyfeddol.
“Tra bod etholwyr yn cymryd golwg anffafriol ar agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at Covid-19, mae eu barn am y Llywodraethau eraill yn llawer mwy ffafriol.
“Mae’r canlyniadau yn dangos bod pleidleiswyr Ceidwadol, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol fel ei gilydd yn gweld gwerth i record gadarnhaol y lywodraethu Celtaidd o’u cymharu â methiannau ymddangosiadol Boris Johnson yn Lloegr. ”
“Pobl yn Lloegr yn dechrau sylweddoli”
Disgrifiwyd y canlyniadau fel rhai “anhygoel” gan gadeirydd YesCymru, Siôn Jobbins.
“Mae’r niferoedd hyn yn anhygoel ac yn dangos bod pobol yn Lloegr bellach yn ymwybodol o ddatganoli mewn ffordd nad oeddent o’r blaen.
“Mae argyfwng Covid-19 wedi dangos yn glir y diffygion yn null ganolog San Steffan o lywodraethu ac mae’n bryd inni gael dadl o ddifri am ddyfodol yr undeb.
“Mae’r undeb yn siomi pobl Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae pobl yn Lloegr yn dechrau sylweddoli hynny.”
Canlyniadau
Llywodraeth San Steffan
41% – o’r farn bod Llywodraeth San Steffan wedi perfformio’n dda
53% – o’r farn bod Llywodraeth Steffan wedi gwneud yn wael.
Llywodraeth Cymru
50% – o’r farn bod Llywodraeth Cymru wedi perfformio’n dda
17% – o’r farn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud yn wael.
Llywodraeth yr Alban
57% – o’r farn bod Llywodraeth yr Alban wedi perfformio’n dda
19% – o’r farn bod Llywodraeth yr Alban wedi gwneud yn wael.
Llywodraeth Gogledd Iwerddon
45% – o’r farn bod Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi perfformio’n dda
13% – o’r farn bod Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi gwneud yn wael.