Gellid gweithredu lockdown lleol cyntaf Cymru ar Ynys Môn yn dilyn achosion o’r coronafeirws mewn ffatri prosesu cyw iâr, meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai mesurau llym ond yn cael eu cyflwyno ar Ynys Môn os bydd achos iechyd cyhoeddus dros wneud hynny. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn aros i weld a yw’r achosion wedi ymledu i’r gymuned ehangach.

Mae tua 158 o achosion o Covid-19 wedi cael eu cadarnhau yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni, Ynys Môn, lle rhoddwyd y gorau i gynhyrchu ar ddydd Iau a dywedwyd wrth y staff am hunanynysu am bythefnos.

Dywedodd Mr Drakeford fod Gweinidogion y Llywodraeth a’r awdurdod lleol yn adolygu’r sefyllfa ac y byddai swyddogion iechyd cyhoeddus yn cynghori p’un a fydd angen mesurau cloi penodol ar gyfer yr ardal.

Dywedodd wrth sesiwn friffio ddyddiol Llywodraeth Cymru: “Byddwn yn cymryd cyngor gan y bobl hynny sy’n delio â’r achosion ar yr ynys i benderfynu a oes unrhyw beth pellach y mae angen ei wneud a fyddai’n gosod cyfyngiadau ar bobl yn fwy cyffredinol.

Ychwanegodd: “Y prawf fydd a oes yna gryn dipyn o’r coronafeirws [wedi lledu] o’r lleoliad caeedig hwn ac i mewn i’r gymuned ehangach.

“Mae’n rhaid bod yn gymesur am y pethau hyn, fel y dywedais. Ni ddylai penderfyniadau i gyfyngu ar ryddid pobl gael eu gwneud ar chwarae bach. Dylid eu cymryd pan fyddant yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd ehangach y cyhoedd.

“Os mai dyna’r sefyllfa yr ydym ynddi ar Ynys Môn, yna byddwn yn cymryd camau ar y cyd â gweithredwyr lleol i wneud hynny.”

Dywedodd Mr Drakeford fod Gweinidogion y Llywodraeth yn gweithio gyda’r Cyd-ganolfan Bioddiogelwch, sy’n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar sut i reoli’r feirws, i benderfynu pa gamau i’w cymryd mewn perthynas ag achosion lleol.