Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cytuno i roi codiad cyflog o 3% i holl staff y Gwasanaeth Iechyd, gan dderbyn argymhellion y corff adolygu cyflogau yn llawn.
Bydd y codiad cyflog yn dod i rym yn ôl-weithredol o fis Ebrill 2021, ac yn berthnasol ar gyfer nyrsys, glanhawyr, porthorion, a gweithwyr cymorth iechyd cyflogedig.
Mae’n cynnwys meddygon ymgynghorol, meddygon dan hyfforddiant, meddygon ar gontractau arbennig ac arbenigwyr cyswllt cyn 2021, meddygon teulu, a deintyddion cyflogedig hefyd.
Mae’r argymhellion gan Gorff Adolygu Cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Chorff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion yn berthnasol i’r holl staff sy’n cael eu cyflogi’n unol â thelerau’r Agenda ar gyfer Newid.
Caiff y codiad cyflog ei roi ar ben taliad bonws y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth eleni.
Roedd y taliad unigol o £735 yn cydnabod y gofal tosturiol a roddodd weithlu’r Gwasanaeth Iechyd i bobol Cymru yn ystod y pandemig.
“Cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad”
“Unwaith eto, hoffwn ddiolch i staff Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru am eu hymdrechion eithriadol yn ystod y pandemig hwn. Mae llawer o’r staff wedi gweithio oriau hir iawn dan bwysau aruthrol.
“Mae’r codiad cyflog hwn yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r cyfraniad enfawr y maent wedi’i wneud. Mae hefyd yn cydnabod faint y mae cymunedau Cymru’n eu gwerthfawrogi.
“Ar gyfer staff ar y cyflog isaf, mae hyn yn golygu ein bod yn talu’n fwy na’r argymhelliad Cyflog Byw o £9.50 yr awr, gan ddangos ein hymrwymiad i sicrhau fod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n gyflogwr Cyflog Byw.”
Nid yw Trysorlys y Deyrnas Unedig wedi darparu gwybodaeth hyd yma ynghylch a fydd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i dalu costau’r codiad cyflog, meddai Llywodraeth Cymru.
Er hynny, dywedodd y Gweinidog Iechyd y bydd cyllidebau yn cael eu blaenoriaethu er mwyn galluogi’r fargen.
Bydd codiad cyflog o 3% i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr hefyd, ac mae undeb Unison wedi dweud eu bod nhw’n falch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi symud oddi wrth eu bwriad gwreiddiol o gynnig 1% o godiad cyflog, ond ychwanegodd yr undeb fod y staff yn haeddu mwy.