Mae’n debygol fod gan naw ymgob deg oedolyn yng Nghymru wrthgyrff Covid-19, yn ôl ystadegau newydd.
Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, mae 92.6% o oedolion Cymru’n cynhyrchu gwrthgyrff.
Mae presenoldeb gwrthgyrff yn awgrymu fod rhywun naill ai wedi cael yr haint, neu wedi cael ei frechu.
Mae’n cymryd rhwng pythefnos a thair wythnos i’r corff ddechrau cynhyrchu gwrthgyrff i gwffio’r feirws ar ôl cael yr haint neu’r brechlyn, ac mae’r gwrthgyrff yn aros yn y gwaed wedyn er eu bod nhw’n gallu gostwng dros amser fel nad ydyn nhw’n dangos ar brofion.
Dangosa’r ystadegau diweddaraf, sy’n seiliedig ar samplau o’r wythnos yn dechrau ar 28 Mehefin, fod cynnydd o 6.6% wedi bod yng Nghymru ers y mis blaenorol – pan oedd gan 86% o’r oedolion wrthgyrff.
Yng Nghymru, pobol rhwng 50 a 59 oed a rhwng 70 a 74 oed (96.6%) oedd y rhai mwyaf tebygol o brofi’n bositif am wrthgyrff.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod patrwm clir rhwng brechlynnau a chynhyrchu gwrthgyrff ar gyfer Covid-19, ond “nad yw dod o hyd i wrthgyrff yn unig yn fesur union o’r amddiffyniad imiwnyddol sy’n cael ei rhoi gan y brechlyn”.
Erbyn hyn, mae 2,284,065 o bobol wedi cael eu brechiad cyntaf yng Nghymru, ac mae 1,946,526 wedi cael y ddau ddos.