Mae’r Uchel Lys wedi cymeradwyo cais NFU Cymru am adolygiad barnwrol i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau ansawdd dŵr.
Yn sgil pryderon ynghylch Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, roedd NFU Cymru wedi dweud fod Llywodraeth Cymru wedi ymddwyn yn anghyfreithlon.
Mae’r rheolau’n cyfyngu ar y defnydd o slyri ledled y wlad trwy osod y genedl gyfan dan ‘Barth Perygl Nitradau’, ddaeth i rym ar ddechrau mis Ebrill.
Dadl y Llywodraeth yw y bydd hyn yn cyfyngu ar y niwed amgylcheddol sy’n cael ei achosi gan nitradau, ac mae grŵpiau amgylcheddol a physgotwyr yn croesawu’r cam.
Ond mae ffermwyr yn frwd yn erbyn y cynlluniau, ac yn ôl NFU, fe wnaeth Llywodraeth Cymru fethu ystyried yr holl wybodaeth berthnasol wrth gynnal Asesiad Effaith Rheoleiddio cyn cyflwyno’r rheoliadau.
Roedden nhw hefyd wedi herio methiant Llywodraeth Cymru i gynnwys rhanddirymiad yn y rheoliadau terfyn nitrogen ar gyfer ffermwyr ag 80% neu fwy o laswelltir.
‘Ddim yn cymryd hyn yn ysgafn’
“Rydyn ni’n falch o glywed fod y Llys wedi derbyn ein cais am ganiatáu adolygiad barnwrol, a bod seiliau y gellid eu dadlau i’r materion y gwnaethom ni eu codi, a’u bod nhw’n haeddu cael eu hystyried mewn gwrandawiad sylweddol,” meddai John Daives, Llywydd NFU Cymru.
“Mae cyrraedd y pwynt hwn yn dyst i’r gwaith caled ac arbenigedd staff NFU Cymru, tîm cyfreithiol mewnol yr undeb, ein cwmni panel cyfreithiol JCP, y Cyngor yn Siambrau Llys Essex a Rhaglen Cymorth Gyfreithiol NFU.
“Dyw NFU Cymru ddim yn cymryd y gweithredu hyn yn ysgafn, ond mae hi wedi gwneud hynny ar ran aelodau NFU Cymru, ffermwyr, a busnesau gwledig ar draws Gymru.
“Bydd gwaith yn digwydd nawr er mwyn paratoi ar gyfer gwrandawiad sylweddol yn unol â chyfarwyddiadau’r Llys, a dydyn ni ddim yn gallu rhoi sylwadau pellach ar yr achos ar hyn o bryd.”
“Ffermwyr yw gwarcheidwaid naturiol y tir”
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Amaethyddiaeth fod gosod Parth Perygl Nitradau ar Gymru gyfan yn “orymateb i weithredoedd lleiafrif bach” a bod y rheolau yn “anghymesur”.
“Ffermwyr yw gwarcheidwaid naturiol y tir” meddai Cefin Campbell AoS, “maen nhw wedi diogelu’r amgylchedd ers canrifoedd.
“Mae Llywodraeth Cymru, wrth osod Parth Perygl Nitradau i Gymru gyfan, wedi gorymateb i weithredoedd lleiafrif bach ac wrth wneud hynny, mae wedi methu â gwrando ar leisiau ffermwyr, undebau, a hyd yn oed y corff sydd wedi’i sefydlu i gynghori’r Llywodraeth – Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Wedi’r cyfan, ’dilyn y dystiolaeth’ fu’r neges allweddol gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig!”
Dywedodd bod risg y byddai’r rheoliadau’n “achosi mwy o niwed amgylcheddol” ac y gallent “danseilio hyfywedd llawer o ffermydd Cymru.”
“Pan nad yw pobl yn cael gwrandawiad, maen nhw’n gweiddi’n uwch – efallai nawr, gyda’r dyfarniad diweddaraf hwn gan yr Uchel Lys, bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando o’r diwedd.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw’n gallu gwneud sylw ar faterion cyfreithiol sy’n parhau.