Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi rhybuddio’r Deyrnas Unedig na fyddan nhw’n ailnegoi’r protocol ar gyfer trefniadau masnachu Gogledd Iwerddon ar ôl Brexit.
Daw hyn ar ôl i weinidog Brexit, yr Arglwydd David Frost, ofyn am newidiadau sylweddol i’r telerau, gan eu bod nhw’n “methu â pharhau fel y mae hi”.
Er hynny, fe ddaliodd yn ôl am y tro rhag cymryd y cam dramatig o atal rhannau o’r fargen i bob pwrpas, er iddo honni y byddai cyfiawnhad dros wneud hynny.
Roedd Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, yn ddirmygus o ddull “anhyblyg” yr Undeb Ewropeaidd wrth weithredu’r cytundeb, er iddo ei lofnodi, a dywedodd bod “cyfle i symud ymlaen mewn modd gwahanol.”
Ond fe wrthododd is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Maros Sefcovic, alwad y Deyrnas Unedig i aildrafod elfennau o’r protocol.
Cefndir y protocol
Mae’r protocol i bob pwrpas yn cadw Gogledd Iwerddon ym marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd, ond bod nwyddau sy’n cael eu hanfon o ynys Prydain Fawr i’r farchnad sengl yn cael eu gwirio – ac mewn rhai achosion eu gwrthod.
Roedd y protocol wedi ei drefnu yn wreiddiol i sicrhau na fyddai ffin galed yn Iwerddon, ond mae hynny wedi arwain at rwystrau masnach ym Môr Iwerddon.
“Rydym yn annog yr Undeb Ewropeaidd i edrych ar y cytundeb eto ac i weithio gyda ni i fachu ar y cyfle i roi sylfaen well i’n perthynas,” dywedodd yr Arglwydd Frost wrth ei gymheiriaid yn Nhŷ’r Arglwyddi.
“Rydyn ni’n barod i weithio gyda nhw i gyflawni dyfodol mwy disglair, sydd o fewn cyrraedd.”
Cynigion y Deyrnas Unedig
Mae’r cynigion sydd wedi eu cyhoeddi gan y Llywodraeth yn cynnwys:-
- Proses sydd “wedi’i seilio ar dystiolaeth” ar gyfer nwyddau sydd mewn perygl o fynd i mewn i’r farchnad sengl, ond caniatáu’n “rhwydd” y nwyddau ar gyfer Gogledd Iwerddon yn unig.
- Mynediad parhaus i nwyddau i Ogledd Iwerddon o weddill y Deyrnas Unedig, trwy ddull rheoleiddio sy’n derbyn safonau Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.
- Fframwaith “arferol” i oruchwylio’r trefniadau, heb unrhyw rôl i’r Llys Cyfiawnder.
Un syniad a gafodd ei gyflwyno oedd bod masnachwyr o’r Deyrnas Unedig yn datgan ai i Ogledd Iwerddon neu’r Weriniaeth y mae eu nwyddau’n mynd.
“Byddai angen rheolau tollau ffurfiol ar gyfer nwyddau sy’n mynd i Iwerddon a byddai’r Deyrnas Unedig yn ymrwymo i’w gorfodi. Ni fyddai angen prosesau tollau ar nwyddau eraill,” cynigiodd yr Arglwydd Frost.
Nododd hefyd ei fod yn credu bod y newid yn angenrheidiol, gan dynnu sylw at ddifrod economaidd a chymdeithasol a fyddai, honnodd, yn cyfiawnhau tanio Erthygl 16, gan rwygo rhannau o’r fargen i bob pwrpas.
‘Aflonyddwch’ ac ‘ansefydlogrwydd’
“Mae aflonyddwch sylweddol wedi bod i fasnach rhwng y dwyrain a’r gorllewin, cynnydd sylweddol mewn masnach ar ynys Iwerddon wrth i gwmnïau newid cadwyni cyflenwi, ac aflonyddwch sylweddol i fywydau pob dydd pobl,” ychwanegodd yr arglwydd Frost.
“Mae ansefydlogrwydd cymdeithasol wedi bod hefyd, gyda’r anhrefn yng Ngogledd Iwerddon dros y Pasg.”
Roedd canfyddiad “ffug, ond clir” yn y gymuned Unoliaethol o gael eu gwahanu oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig, meddai, sydd wedi cael “canlyniadau gwleidyddol dwys”.
Dywedodd yr Arglwydd Frost wrth ei gymheiriaid bod cynnydd wedi bod mewn trafodaethau â’r Unde Ewropeaidd, a swyddogion dan arweiniad Mr Sefcovic, ond “ar y cyfan, dydy’r trafodaethau hynny heb gyrraedd calon y broblem”.
“Yn syml iawn, rydyn ni’n methu parhau fel mae hi,” meddai.
Ymateb i’r newidiadau
Yn ei ymateb, dywedodd Maros Sefcovic: “Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r Deyrnas Unedig, yn enwedig ar yr awgrymiadau wnaethon nhw heddiw.
“Rydym yn barod i barhau i geisio am atebion creadigol o fewn fframwaith y protocol, er budd pob cymuned yng Ngogledd Iwerddon.
“Fodd bynnag, fyddwn ni ddim yn cytuno i aildrafod y protocol yn llwyr.”