Mae nifer y bobl sydd wedi teithio’r siwrnai beryglus ar draws y sianel o Ffrainc i Brydain wedi cyrraedd 8,425 eleni, sy’n fwy na’r cyfanswm o 8,417 a ddaeth drwy gydol 2020.
Cyrhaeddwyd y record newydd ddydd Llun (19 Gorffennaf) wrth i dros 700 o bobl, gan gynnwys menywod a phlant ifanc, hwylio i lannau Caint.
Mae pobl yn parhau i roi eu bywydau mewn perygl gan wneud y daith ar gychod bach yn anaddas ar hyd un o lonydd cludo prysuraf y byd.
Mae un elusen wedi condemio’r llywodraeth gan ddweud ei bod wedi colli ei hygrededd o ganlyniad i’w hanallu i ddelio gyda’r sefyllfa.
Dywedodd Bella Sankey, cyfarwyddwr elusen Detention Action fod angen i’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, sicrhau bod llochesai diogel ar gael i fewnfudwyr.
”Gyda’r record heddiw mae’r Llywodraeth hon yn colli pob hygrededd wrth reoli system loches ddiogel a theg.
“Hyd nes y bydd aildrafod gwleidyddol i ganiatáu i ffoaduriaid deithio’n ddiogel a hawlio lloches ar ffin y Deyrnas Unedig yn Ffrainc, bydd y nifer gymharol fach hon o bobl diobaith yn parhau i orfod peryglu popeth.
“Dylai gweinidogion roi’r gorau i chwarae gwleidyddiaeth ffantasi a chamu i fyny i amddiffyn bywydau yn lle.”
Dyfroedd tawel a gwyntoedd isel
Mae llongau Llu’r Ffiniau (Border Force) a llongau rhyfel Ffrainc wedi bod yn weithgar ar lannau Dover heddiw (Ddydd Mercher 21 Gorffennaf) gyda dwsinau o bobl yn cael eu hachub a’u cludo i borthladdoedd.
Mae’r Heddlu yn siarad â phobl ar y traeth mewn ymdrech i ddod o hyd i’r cychod sy’n cyrraedd, ac maeg’r RNLI yn chwilio am gychod.
Mae’r dyfroedd tawel a gwyntoedd isel yn ystod y dyddiau diwethaf wedi gweld llu o gychod yn croesi i’r Deyrnas Unedig, er gwaethaf y peryglon.
Fe ddywedodd Naor Hilton, Prif Weithredwr elusen Refugee Action: “Mae smyglwyr yn manteisio ar ffoaduriaid gan nad oes ganddyn nhw fawr o ddewis ond peryglu eu bywydau mewn cychod simsan oherwydd bod Gweinidogion yn gwrthod creu mwy o lwybrau diogel i gyrraedd yma.”
“Ni fydd Mesur gwrth-ffoaduriaid creulon y Llywodraeth yn gwneud llawer i atal y cychod.
“Mae llywodraeth y Deyrnas Uneidg wedi llofnodi cytundeb gyda Llywodraeth Ffrainc i gynyddu presenoldeb yr Heddlu ar lannau Ffrainc.”
Cytundeb gweth £54 miliwn
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel a Gweinidog Mewnol Ffrainc, Gerald Darmanin wedi arwyddo cytundeb i ymateb i’r sefyllfa.
Mae’r cytundeb yn nodi bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi £54 miliwn i Ffrainc er mwyn cefnogi ei hymdrechion i atal cychod bach gydag ymfudwyr i groesi.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel,
“Mae’r Llywodraeth yn parhau i gymryd camau i fynd i’r afael â phroblem annerbyniol ymfudo anghyfreithlon.
“Bydd y cytundeb yma yn amddiffyn bywydau ac yn torri’r cylch hwn o groesfannau anghyfreithlon.”