Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth yn Aberteifi.

Cafodd corff John Bell, 37 oed, ei ddarganfod yn oriau man fore dydd Mercher, Gorffennaf 21, ar gyrion y dref.

Mae dyn 22 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Roedd Stryd y Castell, a rhan o Golwg-y-Castell, yn y dref wedi cau fore heddiw, gyda “phresenoldeb heddlu trwm” yn yr ardal yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi eu “trywanu”, meddai un perchennog busnes yn y dref wrth golwg360 yn gynharach.

Fe wnaeth yr heddlu ddiolch i drigolion y dref am “eu cymorth, cefnogaeth a dealltwriaeth” yn ystod y bore.

“Mae ein meddyliau gyda theulu John ar yr adeg anodd hon,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Paul Jones.

“Rydyn ni’n canolbwyntio ein hymchwiliadau ar Olwg-y-Castell, a’r ffordd rhwng y fan honno a Phont Aberteifi ar y funud, lle cafodd Mr Bell ei ddarganfod.”

Teyrnged gan y teulu

Mae teulu John Bell wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud y “bydd colled ar ei ôl”.

“Mae colli John yn dorcalonnus,” meddai teulu John Bell, oedd yn byw yn y dref, mewn datganiad.

“Roedd e’n fab, brawd, tad ac ewythr cariadus a ffyddlon a bydd colled ar ei ôl gan bawb oedd yn ei garu.

“Rydyn ni’n gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon.”

Mae’r heddlu yn galw ar bobl sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw unai ar-lein, drwy e-bost (101@dyfed-powys.pnn.police.uk), neu drwy ffonio 101.