Mae Keir Starmer wedi cyhuddo Boris Johnson o fod yn “archledaenwr dryswch” yn ystod sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog reit gythryblus yn Nhŷ’r Cyffredin.

Rhybuddiodd arweinydd y blaid Lafur bod y wlad yn wynebu “haf o anrhefn” wrth gyfeirio at y newid mewn polisïau hunanynysu a phasbortau clybiau nos yn Lloegr.

Ymatebodd Johnson, neu “yr un o Chequers” fel y galwodd Starmer o oherwydd ei olwg wedi cyfnod yn hunanynysu yno, bod cwestiynau arweinydd yr wrthblaid yn “dila”, cyn amddiffyn ei benderfyniadau yn ystod y pandemig.

Ar un pwynt, roedd cymaint o sŵn yn y siambr tan i Boris Johnson orfod gofyn i’r Llefarydd, Lindsay Hoyle, ymyrryd – gyda Tŷ’r Cyffredin ar ei brysuraf ers Mawrth 2020 yn dilyn llacio’r cyfyngiadau.

Eisteddodd sawl aelod o’r Ceidwadwyr mewn grwpiau agos, a llawer ohonyn nhw ddim yn gwisgo masg, tra bod y meinciau Llafur yn cadw pellter cymdeithasol.

‘Haf o anrhefn’

Yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Starmer: “Efallai bod popeth yn dawel yng nghartref cefn gwlad y Prif Weinidog, ond mae pawb arall yn rhagweld haf o anhrefn.”

“Mae llawer o sŵn yma, gobeithio bod pob un ohonoch chi efo ap yr NHS,” wrth gyfeirio at y Ceidwadwyr mewn grwpiau agos gyferbyn ag o.

Cyfeiriodd Starmer at y miliwn o blant oedd yn dechrau cyfnod gwyliau’r haf ac y “nifer enfawr” o fusnesau oedd yn gorfod cau oherwydd staff yn hunanynysu.

Roedd o hefyd yn amau’r newid ym mholisïau pasbort brechu, gan gwestiynu: “Pam ei bod hi’n iawn mynd i glwb nos am y chwe wythnos nesaf heb dystiolaeth o frechlyn na phrawf, ond yna o fis Medi rhaid cael cerdyn brechu?”

‘Archledaenwr’

“Rwy’n ymwybodol bod y Prif Weinidog yn hoffi gweithredu ar sloganau tri gair – rwy’n credu bod “ffwrdd â hi” yn gweithio’n dda.”

“Pan mae’n dod i achosi dryswch, mae’r Prif Weinidog yn archledaenwr,” dywedodd Starmer yn hwyrach ymlaen.

Ond roedd Mr Johnson yn amddiffynnol o’i bolisïau, gan honni mai’r cyfan oedd Starmer eisiau oedd “cadw’r wlad dan glo.”

Ychwanegodd mai ei unig ystyriaeth oedd “annog” pobl ifanc i gael eu brechlyn, gan ymateb â’i slogan tri gair ei hun: “Cymrwch y brechlyn!”

Starmer i hunanynysu

Yn ddiweddarach, cyhoeddwyd y bydd Keir Starmer yn hunanynysu ar ôl i un o’i blant brofi’n bositif am y coronafeirws

Bu i’w blentyn brofi’n bositif am y coronafeirws tua’r adeg yr oedd yn Nhŷ’r Cyffredin ar gyfer cwestiynau’r Prif Weinidog, meddai llefarydd.

Dywedwyd bod yr arweinydd Llafur wedi profi’n negyddol fore Mercher cyn ei ymddangosiad yn y Senedd.

Dyma’r pedwerydd tro i Syr Keir orfod mynd i mewn i gwarantîn ers dechrau’r pandemig, a bydd yn ei orfodi i newid ei gynlluniau i lansio ei ymgyrch “cymunedau mwy diogel” ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd: “Fe wnaeth un o blant Keir brofi’n bositif am Covid yr amser cinio hwn. Yn unol â’r rheolau, bydd Keir a’i deulu bellach yn hunanynysu.

“Roedd Keir eisoes yn cynnal profion dyddiol ac yn profi’n negyddol y bore yma. Bydd yn parhau i gymryd profion dyddiol.”