Mae Lerpwl wedi cael ei dileu o Restr Treftadaeth y Byd ar ôl i un o bwyllgorau’r Cenhedloedd Unedig ganfod bod datblygiadau, gan gynnwys stadiwm newydd Clwb Pêl-droed Everton, yn fygythiad i werth glannau’r ddinas o ran meini prawf y statws.
Enwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan Sefydliad Gwyddonol a Diwylliannol Addysg y Cenhedloedd Unedig (Unesco) yn 2004, gan ymuno â lleoedd gan gynnwys y Taj Mahal, Pyramidiau’r Aifft ac Eglwys Gadeiriol Caergaint.
Ond ddydd Mercher (21 Gorffennaf), yn dilyn pleidlais gyfrinachol, pleidleisiodd Pwyllgor Treftadaeth y Byd i dynnu’r safle oddi ar y rhestr.
Mae’r penderfyniad wedi cael ei ddisgrifio fel un “anghydnaws” gan faer Lerpwl Joanne Anderson.
“Rwy’n hynod siomedig ac yn bryderus am y penderfyniad hwn i ddileu statws Treftadaeth y Byd Lerpwl, sy’n dod ddegawd ar ôl i Unesco ymweld â’r ddinas ddiwethaf i’w gweld gyda’u llygaid eu hunain,” meddai.
“Nid yw ein safle Treftadaeth y Byd erioed wedi bod mewn cyflwr gwell ar ôl elwa o gannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad ar draws dwsinau o adeiladau rhestredig a’r amgylchfyd cyhoeddus.
“Byddwn yn gweithio gyda’r Llywodraeth i archwilio a allwn apelio ond, beth bynnag a ddigwydd, bydd Lerpwl wastad yn ddinas Treftadaeth y Byd.
“Mae gennym dreftadaeth drawiadol ar lan y dŵr a threftadaeth adeiledig anhygoel sy’n destun cenfigen i ddinasoedd eraill.
“Mae ein hymrwymiad i gynnal a gwella ein hadeiladau yn parhau i fod mor gryf ag erioed a bydd yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n hymgyrch i ddenu ymwelwyr, ynghyd â hamdden, manwerthu a digwyddiadau.”