Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi croesawu dyfarniad bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig rhy araf yn hysbysu menywod y byddai newidiadau i gynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnyn nhw.

Daw sylwadau Peredur Owen Griffiths, llefarydd Plaid Cymru ar bobol hŷn, wedi i’r Ombwdsmon Seneddol ddod i’r dyfarniad sy’n “fuddugoliaeth sylweddol” i Fenywod Waspi (Women Against State Pension Inequality).

Does gan yr Ombwdsmon ddim pwerau i ad-dalu pensiynau, ond mae’n golygu fod y miloedd o fenywod gafodd eu geni yn y 50au gam yn nes at gael ad-daliad.

Mae’r oed mae pobol yn derbyn eu pensiwn wedi bod yn cynyddu wrth i bobol fyw yn hirach, ac mae ymgyrchwyr yn dweud fod menywod a gafodd eu geni yn y 50au wedi’u heffeithio yn annheg gan y newidiadau a’r ffordd gafodd y newidiadau hynny eu cyfleu iddyn nhw.

Mae miloedd yn dweud fod ganddyn nhw ddim syniad y byddai’n rhaid iddyn nhw aros hirach i dderbyn pensiwn gwladol, ac wedi dioddef caledi ariannol ac emosiynol yn sgil hynny.

Yn ôl amcangyfrifon yr ymgyrch, methodd yr Adran Gwaith a Phensiynau hysbysu 3.8 miliwn o fenywod yn ddigonol y byddai eu hoedran pensiwn gwladol yn cynyddu, gan olygu na allai llawer ymddeol pan oedden nhw wedi bwriadu gwneud hynny.

“Gwrthod gwneud y peth iawn”

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn y Senedd, fod yr ymgyrch wedi symud gam yn nes at sicrhau cyfiawnder i fenywod.

“Mae hon yn fuddugoliaeth sylweddol i’r miliynau o fenywod sy’n cael eu gadael allan o boced gan y penderfyniad hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Mae llawer o fenywod wedi cael eu gorfodi yn ôl i waith ar oedran pan oeddent yn bwriadu cymryd pethau’n arafach ar ôl degawdau o waith. Mae rhai wedi cael eu gwthio i dlodi a bydd rhai wedi colli eu cartrefi o ganlyniad.

“Mae’r llywodraeth Dorïaidd wedi gwrthod yn ystyfnig i wneud y peth iawn ar hyn. Gwnaethant gamgymeriad mawr ond yn hytrach na dal eu dwylo i fyny a chyfaddef eu bod yn anghywir, maent wedi ymladd ymgyrch Waspi drwyddi draw.

“Mae tîm Plaid Cymru yn San Steffan wedi bod yn datgelu ffaeleddau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater hwn a bydd y blaid yn cadw’r pwysau ymlaen nes bod cyfiawnder yn cael ei gyflawni.”

“Ad-daliad teg ac addas”

Yn ôl cadeirydd ymgyrch Waspi, mae’r dyfarniad yn atgyfnerthu’r hyn roedden nhw’n gwybod drwy gydol yr amser.

“Mae’r canfyddiadau yn atgyfnerthu’r hyn roedden ni, yn anffodus, yn gwybod drwy gydol yr amser; fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi methu â rhoi gwybod yn ddigonol i 3.8 miliwn o fenywod a gafodd eu geni yn y 50au y byddai oed eu pensiwn gwladol yn cynyddu,” meddai Angela Madden, sy’n cadeirio’r ymgyrch.

“Mae’r menywod hyn wedi bod yn disgwyl ers nifer o flynyddoedd am ad-daliad. Ni allwn ni aros ddim hirach.

“Rydyn ni’n galw ar y llywodraeth i gytuno ar ad-daliad teg ac addas yn hytrach na chaniatáu i’r hyn sydd wedi dod yn gylch dieflig o ddiffyg gweithredu gan y llywodraeth barhau.”