Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, wedi dweud y gallai aflonyddu rhywiol ar y stryd, fel chwibanu ar ferched, ddod yn drosedd benodol.
Daw hyn fel rhan o gynlluniau i amddiffyn menywod a merched yn gyhoeddus yn y cartref ac ar y rhyngrwyd.
Mae disgwyl i Lywodraeth y DU rhyddhau ei strategaeth heddiw (Dydd Mercher, 21 Gorffennaf) i geisio mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched gyda’r nod o leihau ymosodiadau.
Bydd y Llywodraeth yn lansio ap ‘StreetSafe’ a fydd yn galluogi dioddefwyr i nodi mannau cyhoeddus lle maen nhw’n teimlo’n anniogel ac esbonio pam.
Ond yn ôl Fflur Evans, 23 oed, sydd wedi profi aflonyddu ar y stryd, mae’n cwestiynu a yw’r dechnoleg ‘Streetsafe’ yn ymarferol.
“Be sy’n anodd yw mae’n digwydd ymhob man hyd yn oed yng ngolau dydd yng nghanol dre, felly sut fydd e’n gweithio, byddai rhaid i bob ardal o Gaerdydd fod ar yr ap yma,” meddai wrth Golwg360.
Mae Fflur wedi profi aflonyddu ar y stryd ers yn yr ysgol ac mae’n dweud bod nifer o ferched eraill fel hi yn teimlo’n anniogel wrth gerdded ar ei phen ei hun.
“Ma’ fe wedi digwydd i fi a phobl fi’n nabod. S’dim ots faint o weithiau ma’ fe’n digwydd chi bob tro yn teimlo cywilydd ac yn cael sioc.
“Fi’n cofio un achlysur, o’n i yn ardal eithaf neis o Gaerdydd a gwaeddodd y dyn yma o’i fan arna i.
“Gwnes i drydar am y peth ac awgrymodd rhywun dylwn i nodi manylion y fan, ond pan ydych chi yng nghanol foment nid dyna sy’n mynd trwy eich meddwl yn syth.
“Ers yn ifanc, fi’n cofio gadael ysgol ac yn cerdded ar ochr heol a chael dynion rhyfedd yn canu corn ac yn gwneud sylwadau a hynny pan o’n gwisgo dillad ysgol.”
‘Ymateb i lofruddiaeth Sarah Everard’
Seiliwyd y strategaeth newydd ar 180,000 o ymatebion gan y cyhoedd mewn arolwg gan y Llywodraeth gyda’r mwyafrif helaeth o bobl yn ymateb o fewn cyfnod o bythefnos yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard fis Mawrth.
Cafodd Sarah Everard, 33, ei chipio, treisio a’i lladd gan heddwas gyda Heddlu’r Metropolitan, Wayne Couzens, ac fe sbardunodd hynny gwrthdystiadau ar hyd a lled y DU.
‘Angen addysgu’
Mae Fflur, sy’n gweithio i Brifysgol Caerdydd, yn rhan o nifer o drafodaethau am addysgu myfyrwyr am bwysigrwydd cydsyniad rhyw.
“Ni’n addysgu myfyrwyr pwysigrwydd am barchu eich gilydd a chydsyniad rhyw., meddai.
“Rwy’n meddwl bod y problemau hyn yn deillio o’r ysgol.
“Dim ond addysg rhyw cyfyngedig iawn sydd a dyna’r broblem.
“Mae angen addysgu plant am bynciau fel toxic masculinity.”
‘Ymosodiadau’n waeth yn y tywydd braf’
“Yn y tywydd braf yma ar hyn o bryd mae e’n fwy amlwg os unrhyw beth.
“Fe wnes i gerdded i’r siop ddoe, sy’n dafliad carreg o fy fflat, ac roeddwn yn gwisgo siorts byr a crop top, ac o’dd yna gymaint o ddynion yn edrych arna i.
“Ac fe alle’ chi ddweud mai jyst yn ‘mhen i yw e, ond mae cymaint o ferched yn dweud yr un peth â fi.
“Dyna’r neges bwysig, jyst achos ei fod yn haf a bod y tywydd yn braf, a bo ni’n gwisgo llai o ddillad, dydy hynny ddim yn rheswm i fois wneud sylwadau yn gyhoeddus.
“Sa’i moen gorfod gwisgo jîns a thop gyda breichiau hir i deimlo’n ddiogel”
Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ei bod yn bwriadu sicrhau bod pwerau gan yr heddlu i ddelio ag aflonyddu ar y stryd.
“Rwy’n benderfynol o roi’r pwerau sydd eu hangen ar yr heddlu i fynd i’r afael â thramgwyddwyr a chyflawni eu dyletswyddau.
“Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau nid yn unig bod y deddfau yno, ond eu bod yn gweithio’n ymarferol ac mae menywod a merched yn hyderus y bydd eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif.
“Mae’n bwysig bod yr heddlu’n gorfodi’r gyfraith ac yn rhoi hyder i fenywod.”
Mae’r Blaid Lafur wedi beirniadu’r cynllun ac fe ddywedodd Jess Phillips AS fod y strategaeth yn enghraifft o’r llywodraeth yn llusgo ei thraed.
“Sut ydyn ni mewn sefyllfa lle mae gennym ni well amddiffyniadau ar gyfer cerfluniau nag ar gyfer menywod?
“Dylai’r Llywodraeth nawr wneud mwy a gweithredu yn hytrach na geiriau gwag.”