Mae Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amlinellu cynigion i fynd i’r afael â’r ‘heriau difrifol’ sy’n ymddangos yn sgil Protocol Gogledd Iwerddon.

Bu Boris Johnson mewn galwad ffôn ddydd Mawrth (20 Gorffennaf) gyda Micheál Martin, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon gan alw am ‘bragmatiaeth’ er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n cael eu creu gan delerau cytundeb Brexit.

Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd y DU yn gwrthdaro gyda’r Undeb Ewropeaidd dros y datrysiadau dadleuol.

Mae disgwyl i’r llywodraeth amlinellu ei chynigion yn Senedd San Steffan heddiw (Dydd Mercher, 21 Gorffennaf) a fydd yn ceisio dileu’r mwyafrif o wiriadau ar nwyddau sy’n teithio rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon.

Ddydd Llun, fe ddywedodd y Gweinidog Brexit yr Arglwydd Frost wrth bwyllgor craffu Ewrop mai’r unig fodd iddo alluogi i’r protocol weithio oedd “i leihau neu waredu’r rhwystrau” sydd i bob pwrpas wedi creu ffin yng nghanol Môr Iwerddon ers mis Ionawr.

Mae’n galw am ganiatáu i gwmnïau ym Mhrydain ddatgan bod ganddyn nhw’r hawl i werthu eu nwyddau yng Ngogledd Iwerddon yn unig i hepgor gwiriadau ffiniau.

Cafodd y protocol ei negodi fel rhan o gytundeb ymadael Prydain er mwyn osgoi ffin galed gydag Iwerddon.

Y bwriad oedd cadw Gogledd Iwerddon o fewn marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer nwyddau.

Ond mae cyflwyno gwiriadau ar nwyddau sy’n dod ar draws Môr Iwerddon wedi gwylltio unoliaethwyr sy’n dweud fod telerau’r cytundeb Brexit wedi gwanhau’r berthynas rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU.

“Ystyried yn ofalus”

Yn ystod y galwad ffôn rhwng Boris Johnson a Micheál Martin, ddywedodd y prif weinidog ei fod yn cydnabod fod y protocol yn parhau i hollti barn yn Iwerddon.

Yn ôl Downing Street fe wnaeth yn glir fod Llywodraeth y DU wedi ei hymrwymo i ddiogelu cytundeb Gwener y Groglith ymhob agwedd posib.

Wrth i’r L:lywodraeth amlinellu ei chynigion heddiw yn San Steffan mae prif weinidog Iwerddon yn bwriadu gwrando ar y cynigion a’u ‘hystyried yn ofalus’.

Roedd disgwyl i’r ddau brif weinidog gyfarfod yn y DU ond mae Boris Johnson wedi gorfod hunan-ynysu ers dod i gysylltiad gyda’r Ygrifennydd Gwladol dros Iechyd a oedd wedi cael prawf positif am Covid 19 dros y penwythnos.

Mae’r Unol Daleithiau hefyd yn cadw llygad ar y datblygiadau yn y berthynas rhwng y DU a’r UE.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth yr Unol Daleithiau, Ned Price, ei fod am ddiogelu Cytundeb Gwener y Groglith.

“Rydym wedi dweud yn gyson ein bod yn croesawu’r cytundeb masnach a chydweithrediad a Phrotocol Gogledd Iwerddon rhwng y DU a’r Undeb Ewropeaidd, sydd, yn bwysig, yn helpu i ddiogelu Cytundeb Belfast a Dydd Gwener y Groglith.”

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Iwerddon, Brandon Lewis yn darllen datganiad yr Arglwydd Frost ar lawr Tŷ’r Cyffredin heddiw.

Mae disgwyl i’r datgniad ddweud bod y DU o fewn ei hawl i sbarduno Erthgyl 16 oherwydd y tarfu sydd ar brotocol Gogledd Iwerddon.