Mae adroddiad blynyddol S4C yn “gadarnhaol”, meddai Cadeirydd y sianel, Rhodri Williams.

Daw hyn wedi i’r adroddiad, gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, 21 Gorffennaf) ddatgelu bod y sianel wedi sicrhau cynnydd yn ei ffigurau gwylio ar draws pob platform.

Gwelwyd cynnydd gydag oriau gwylio S4C Clic i fyny 45% ac 20% ar BBC iPlayer. Ac fe lwyddwyd i ddenu 200,000 o danysgrifwyr i S4C Clic.

Ar ben hynny gwelwyd cynnydd yng nghyfartaledd gwylio oriau brig yng Nghymru o 17,500 i 18,500 (6%).

Cynyddodd cyrhaeddiad wythnosol S4C yng Nghymru o 306,000 i 321,000 – cynnydd o 5% – a’r cyrhaeddiad wythnosol y tu hwnt i Gymru o 396,000 i 502,000 – sy’n gynnydd o 27%.

Cynyddodd oriau gwylio S4C ledled y Deyrnas Unedig i’w lefel uchaf ers saith mlynedd.

Ar y cyfryngau cymdeithasol, maes lle mae’r sianel wedi buddsoddi ynddo dros y blynyddoedd diwethaf, roedd oriau gwylio ar brif dudalen Facebook S4C wedi cynyddu 72% flwyddyn ar flwyddyn, gydag oriau gwylio ar brif gyfrif Twitter S4C yn tyfu 87%.

Bu 28.5 miliwn o sesiynau gwylio ar draws tudalennau Facebook S4C yn ystod y flwyddyn a gwelwyd cynnwys S4C 458,000 o weithiau’r dydd ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn ar draws Facebook, Twitter ac Instagram.

Cafodd Hansh dros 1.4 miliwn o sesiynau gwylio ym mis Mawrth 2020 – sy’n record – a chynyddwyd yr oriau gwylio ar draws sianeli YouTube S4C 48% yn ystod y flwyddyn.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi cael ein siomi ar yr ochr orau,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n gwasanaethau ni, er gwaethaf y ffaith ei bod nhw wedi colli llawer o gynnwys poblogaidd a phwysig, wedi dal i lwyddo i ddenu cynulleidfaoedd.

“Yn amlwg mae pobol wedi dibynnu mwy ar y cyfryngau am eu diddanwch a’u gwybodaeth ar y gwasanaeth llinol yn ogystal â gwasanaethau ar-lein.

“Mae’n dda bod y gwasanaethau wedi llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd, a pheth arall yw bod peth o’r cynnwys wedi bod yn gadarnhaol iawn… gydag Eisteddfod T er enghraifft, roedd yn rhaid i’r Urdd a’r cwmni cynhyrchu ffeindio ffordd newydd o wneud rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o’r amserlen ers gymaint o flynyddoedd, ac wedi ffeindio ffordd newydd o wneud e.

“A’r enghraifft arall fyddai Sgwrs o Dan y Lloer, rhaglen ddaeth allan o amgylchiadau Covid ond sydd erbyn hyn wedi ennill ei le yn yr amserlen hyd yn oed pan mae’r cyfyngiadau wedi llacio’n sylweddol.

“Felly mae lot i fod yn falch ohono, a’r peth arall fyddwn i’n ei ddweud yw pa mor gadarnhaol mae’r ymateb wedi bod gan staff S4C yn y lle cynta’ a gan y sector greadigol yng Nghymru sy’n creu’r holl gynnwys yna.”

Darpariaeth ddigidol dal “ar ei hôl hi”

Fodd bynnag, mae darpariaeth ddigidol S4C yn dal i fod “ar ei hôl hi” yn ôl Rhodri Williams.

Dywedodd y llynedd fod y sianel genedlaethol “ar ei hôl hi o ran darpariaeth ddigidol” a’i bod wedi methu “dygymod â’r her o benderfynu pa fath o wasanaethau mae’n bosibl eu darparu nhw ar y sgrin deledu draddodiadol, a pha wasanaethau sydd yn well yn cael eu darparu ar lwyfannau digidol gwahanol.”

“Dw i’n meddwl mai’r rheswm pennaf am hwnna yw bod hynny (darpariaeth ddigidol) ddim wedi cael ei flaenoriaethu yn y gorffennol fel dw i’n credu y dylai ef fod wedi.

“Dw i’n credu y gallai’r sianel fod wedi bod yn fwy mentrus cyn i ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Adroddiad Euryn [Ogwen Williams] roi’r hawl yn ffurfiol i fod yn gwneud mwy ar y ffrynt digidol.

“Felly rydyn ni’n sicr wedi bod yn hwyr yn dod ati, mae yna rai elfennau lle rydan ni’n dal ar ei hôl hi.

“Os edrychwch chi ar argaeledd y chwaraeydd Clic ar rai mathau o setiau teledu clyfar dyw e ddim yno, ac mae’r effaith mae hynny yn ei gael yn negyddol.

“Hynny yw, mae gen i set deledu cymharol newydd Sony ac mae ei ddefnyddio fe i wylio Clic yn, wel, ddwedwn i yn amhosibl.

“Felly os dw i eisiau defnyddio’r ddyfais yna i wylio cynnwys S4C, mae’n rhaid i mi ddibynnu ar yr iPlayer.

“Dw i’n credu ein bod ni dal ar ei hôl hi yn ymarferol, ond dw i’n credu ein bod ni nawr yn mynd ati gydag arddeliad i wneud y newidiadau fydd yn golygu ein bod ni yn gallu darparu ein cynnwys ni ar y llwyfannau mae gwylwyr am eu defnyddio.”

Ansicrwydd ynghylch cyllid

Mae yno beth ansicrwydd ynghylch S4C, gydag Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, yn dweud y bydd penderfyniad “yn fuan iawn” ynglŷn â chyllideb y sianel at y dyfodol.

Dywedodd Simon Hart y byddai penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd mis Gorffennaf.

Mae’r sianel yn aros i glywed gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y setliad ariannu am y bum mlynedd nesaf.

Yn 2020-21, fe dderbyniodd y sianel £74.5m o ffi drwydded y BBC a £21.85m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ond bydd yr holl arian yn dod o’r ffi drwydded y tro hwn, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig stopio ariannu’r sianel.

“Mae’n rhaid i ni aros i weld beth yw penderfyniad y Llywodraeth,” meddai Rhodri Williams.

“Yr unig beth dw i’n ei wybod yw ein bod ni wedi cyflwyno cais trylwyr, rhesymol a manwl ynglyn â’r hyn rydyn ni’n meddwl sydd yn angenrheidiol er mwyn cynnal gwasanaeth credadwy yn yr iaith Gymraeg ar draws yr holl lwyfannau yma.

“A’r unig beth rydw i’n ei obeithio yw bod y sawl sy’n gyfrifol am y penderfyniad wedi talu sylw dyladwy at hynny.

“Roedd yno sôn bod y Llywodraeth yn ystyried rhyw fath o setliad – beth maen nhw’n ei alw’n flat cash – sef cyllideb yn gwmws fel ag y mae e.

“Wel mae S4C wedi bod yn gweithredu ar y lefel honno ers deng mlynedd, felly dyw hynny ddim yn rhywbeth newydd i ni, rydan ni wedi bod yn gwneud hynny er peth amser, ac mae hwnna yn rhan o’r ateb ynglyn â datblygiadau digidol… yn sgil hynny doedd y cyllid ddim ar gael ar adegau i ymateb fel oedd eisiau.

“Felly rydyn ni’n obeithiol bod y dadleuon rydyn ni wedi eu cyflwyno wedi taro deuddeg ac y cawn ni ymateb ffurfiol gan y Llywodraeth.

“Oherwydd er bod yr arian yn symud i fod yn gyfan gwbl o ffi’r drwydded, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn penderfynu faint o arian sy’n mynd i gyfeiriad S4C.

“Rydan ni wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth agored a chyhoeddus gan wleidyddion o bob lliw gwleidyddol, gan gynnwys aelodau o’r Llywodraeth bresennol.

“Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau ei chefnogaeth i S4C ac i ddarlledu a darparu cynnwys yn yr iaith Gymraeg ar sawl achlysur.

“Alla i ond mynd yn ôl yr hyn rydyn ni wedi ei brofi, ac fel dw i’n dweud rydan ni wedi profi lefel uchel o gefnogaeth agored i’r hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud.”

‘Dim anghydfod’ gydag Owen Evans

Mae Rhodri Williams yn gwadu bod yno anghydfod yn bodoli rhyngddo ef ag Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.

Daw hyn wedi i Newyddion S4C adrodd y bydd Owen Evans yn gadael ei rôl fel Prif Weithredwr y sianel yn fuan.

Ac yn ôl adroddiad yn y Western Mail, bydd yn gadael i ymuno ag Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.

“Ddim o gwbl,” meddai Rhodri Williams pan ofynnodd golwg360 a oedd anghydfod rhwng y ddau.

“Rydyn ni wedi cydweithio law yn llaw ac yn parhau i wneud achos mae’r cais ariannol rydw i wedi bod yn sôn amdano fe yn amlinellu beth yw’r weledigaeth.

“Mae e’n fanwl iawn ynglyn â rhai o’r datblygiadau rydyn ni am ei weld, a does dim anghytuno nag anghydweld yn y fan yna a rhwng y Prif Weithredwr a’i dîm a’r bwrdd unedol.

“Wrth gwrs, mae’r Prif Weithredwr yn aelod o’r bwrdd… felly does dim anghytuno yn y fan yna o gwbl ac rydyn ni’n gwbl hyderus yn y weledigaeth sydd wedi’i gyflwyno i’r Llywodraeth.

“Ac rydyn ni’n edrych ymlaen at pan glywn ni faint o arian sy’ n dod i’r sianel i allu manylu ar sut y bydd yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio.”

Owen Evans

Cyhoeddi mai Owen Evans fydd prif arolygydd newydd Estyn

Cafodd enw Owen Evans ei argymell i’r Frenhines gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, yn dilyn proses recriwtio gan Lywodraeth Cymru
Owen Evans

Prif Weithredwr S4C i adael y sianel

Yn ôl adroddiadau, bydd Owen Evans yn ymuno ag Estyn fel Prif Arolygwr