Prif weithredwr S4C Owen Evans fydd prif arolygydd addysg a hyfforddiant Estyn newydd Cymru.

Cafodd enw Owen Evans ei argymell i’r Frenhines gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, yn dilyn proses recriwtio gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Owen Evans yn cymryd swydd Meilyr Rowlands, sef y prif arolygydd Estyn presennol.

Fe fydd Meilyr Rowlands yn ymddeol ddiwedd Awst eleni, ac Owen Evans yn ymgymryd â’r rôl ym mis Ionawr 2022.

Yn y cyfamser, cyfarwyddwr strategol Estyn, Claire Morgan, fydd y prif arolygydd dros dro hyd fis Ionawr.

Mae Owen Evans yn Brif Weithredwr S4C ar hyn o bryd, a ddoe fe wnaeth Cadeirydd y sianel, Rhodri Williams, wadu bod anghydfod rhwng y ddau.

Cafodd Owen Evans ei benodi’n Brif Weithredwr S4C ym mis Hydref 2017, a chyn hynny roedd yn ddirprwy ysgrifennydd parhaol i Lywodraeth Cymru, ac yn gyfrifol am addysg a gwasanaethau cyhoeddus.

“Ffrind beirniadol”

Wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw (22 Gorffennaf), fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford longyfarch Owen Evans ar ei benodiad a diolch i Meilyr Rowlands am ei waith.

“Dw i am longyfarch Owen Evans ar ei benodiad, ac yn diolch o galon i Meilyr Rowlands am ei waith caled a’i ddiwydrwydd yn ystod ei gyfnod yn y swydd,” meddai Mark Drakeford.

“Mae Meilyr wedi bod yn ffrind beirniadol i’r llywodraeth ac wedi mynd ati’n systemataidd i helpu i godi safonau ysgolion yng Nghymru drwy broses arolygu drwyadl. Dw i’n dymuno’n dda iddo i’r dyfodol.”

“Edrych ymlaen”

“Hoffwn ddiolch i Meilyr Rowlands am ei waith fel prif arolygydd,” ychwanegodd Jeremy Miles, y gweinidog addysg.

“Ei gyfraniad ef at addysg yng Nghymru yw un o’r rhesymau pam mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i Owen Evans ymgymryd â’r rôl.

“Dw i’n ei longyfarch ar ei benodiad ac yn edrych ymlaen at weithio gyda fe yn y dyfodol.”

Owen Evans

Prif Weithredwr S4C i adael y sianel

Yn ôl adroddiadau, bydd Owen Evans yn ymuno ag Estyn fel Prif Arolygwr