Mae nyrs wedi dweud y byddai’n barod i streicio pe bai angen fel protest yn erbyn codiad cyflog o 3% i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r nyrs – sy’n gweithio yn un o ysbytai Abertawe – o’r farn fod “y codiad pitw yma yn sarhad ar ein gwaith.”
“Mae yna gymaint o staff yn ein ysbyty i ffwrdd o’u gwaith oherwydd pwysau a straen dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai’r nyrs sydd am aros yn ddi-enw.
Dywedodd wrth Golwg360: “Pe byddai angen protestio neu hyd yn oed streicio, wel dyna fydd raid gwneud ond dydyn ni wir ddim am wneud hynny achos ein bod ni’n poeni cymaint am ein cleifion.
“Mae’n dangos yn blwmp ac yn blaen nad yw’r llywodraeth yn gwerthfawrogi popeth rydym wedi gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’r hyn mae nyrsus wedi profi ar wardiau gofal dwys dros y flwyddyn ddiwethaf yn anodd i’w roi mewn i eiriau.
“Rydym wedi rhoi ein bywydau ni yn y fantol i achub cymdeithas ac mae’r codiad pitw yma yn sarhad ar ein gwaith.”
Bydd nyrsys, doctoriaid, deintyddion a gweithwyr eraill o fewn yr ysbyty hefyd yn derbyn y codiad tâl yn dilyn adolygiad gan gyrff adolygu cyflogau y GIG ac adolygiad meddygon a deintyddion.
Mae’r Coleg Brenhinol y Nyrsys wedi disgrifio’r cyhoeddiad fel un “siomedig iawn”.
‘Wedi cael llond bol’
Ym mis Mai eleni fe dderbyniodd rhan fwyaf o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru bonws ar eu cyflog oedd yn cyfateb i £735 ond ar ôl didyniadau treth ac yswiriant gwladol roedd hynny yn gadael cyfanswm o £500.
“Ni moen codiad tâl sy’n mynd i wneud gwahaniaeth a bydd y 3% yna’n siŵr o ddiflannu gyda didyniadau treth ar ddiwedd y mis ac felly sai’n credu bydda i yn buddio’n fawr o hynny,” meddai.
“Yn ystod fy nwy flynedd gyntaf o hyfforddi cefais i ddim fy nhalu ac roedd hynny i ddisgwyl ond pan darodd y pandemig roedd y gwaith yn anodd dros ben ac fe wnaethon ni dderbyn cyflog.
“Ond ni ddaeth hynny heb bwyso nac erfyn ar y llywodraeth ac a dweud y gwir ni di cael llond bol o orfod ymbil ac aros.”
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y codiad cyflog yn werthfawrogiad o waith gweithwyr iechyd.
Dywedodd Eluned Morgan y Gweinidog Iechyd: “Mae’r codiad cyflog hwn yn cydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff y GIG a’r cyfraniad enfawr y maent wedi’i wneud.
“Mae hefyd yn cydnabod faint y mae cymunedau Cymru’n eu gwerthfawrogi.
“Mae’r newid yn golygu mai’r cyflog llawn amser blynyddol isaf ar gyfer staff yn y gwasanaeth iechyd fydd £19,918”.
Fe fydd y codiad cyflog yng Nghymru yn ôl-weithredol o fis Ebrill 2021, ac yn berthnasol i staff cyflogedig gan gynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion a gweithwyr cymorth iechyd.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig “wrth eu bodd” gyda’r codiad cyflog, tra bod Plaid Cymru yn “siomedig”, o ystyried y cynnig o 4% yn yr Alban.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach wedi cadarnhau na fydd arian newydd i dalu am y codiad cyflog yn Lloegr. Hynny yw, rhaid i’r arian ddod o goffrau’r Gwasanaeth Iechyd.
Mae’n debyg y bydd hyn yn golygu na fydd arian canlyniadol i dalu am y codiad yma yng Nghyrmu ‘chwaith
‘Pobl yn llacio rheolau’
Dros yr wythnos ddiwethaf mae’r nifer o bobl sydd wedi cael gwybod i hunan-ynysu gan ap y Gwasanaeth iechyd yng Nghymru a Lloegr wedi cyrraedd 618,903.
“Mae’r newid agwedd yma sydd gan bobl ers cael dau frechlyn yn fy ngofidio, mae pobl i weld i wneud beth mae nhw moen,” meddai’r nyrs.
“Ni nawr yn gweld y ‘pingdemic’ a dyw hynny ddim yn gyd-ddigwyddiad, mae hynny o ganlyniad i bobl yn newid eu hagwedd ac yn llacio rheolau eu hunain.
“Dros y ffin ni’n gweld effeithiau digwyddiadau mawr yn Lloegr a hynny o achos cynnal digwyddiadau yn Wembley a Wimbledon ac yn blaen.”
Nyrsus yn ystyried gweithredu’n ddiwydiannol oherwydd codiad cyflog o 3%