Cafodd gwasanaeth ambiwlans Cymru ragor o alwadau fis Mehefin nag yn ystod unrhyw fis arall ers dechrau’r pandemig, dengys ffigyrau.

Derbyniwyd cyfanswm o 41,454 o alwadau fis Mehefin, sy’n gyfartaledd o 1,382 galwad y dydd.

Dengys y ffigyrau bod 7.9% o’r rhain yn alwadau ‘coch’, sy’n golygu bod bywyd rhywun mewn perygl.

Mae’r ffigyrau hefyd yn datgelu bod 608,602 o gleifion ar restrau i dderbyn triniaeth.

Roedd 227,753 o gleifion wedi aros rhagor na 36 wythnos am driniaeth fis Mai, sy’n gynnydd o tua 200,000 ers mis Chwefror.

Mae adrannau brys ysbytai Cymru hefyd o dan bwysau, gyda 94,076 o ymwelwyr ym mis Mehefin, sef yr ail ffigwr uchaf ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw yn Ebrill 2012.

“Straen aruthrol”

Wrth ymateb i’r ffigyrau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r data diweddaraf yn dangos bod y pwysau ar wasanaethau gofal brys yn cynyddu i lefel sy’n uwch na’r hyn a brofwyd cyn y pandemig, ac mae staff y Gwasanaeth Iechyd o dan straen aruthrol.

“Rydym yn annog pobol i feddwl yn ofalus am beth yw’r gofal gorau ar gyfer nhw, ac i beidio â mynd at eu meddyg teulu neu i’w hadran damweiniau ac achosion brys lleol o reidrwydd.

“I gael y gofal iawn, y tro cyntaf gall pobol hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth 111 a’u fferyllydd lleol pan fo hynny’n briodol.”

£25m y flwyddyn 

Ychwanegodd: “Heddiw, cyflwynodd y Gweinidog Iechyd gynlluniau i wella’r trefniadau ar gyfer darparu gofal brys a gofal mewn argyfwng.

“Nod y cynlluniau, sy’n derbyn cymorth o £25m y flwyddyn, yw darparu’r gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.

“Gwella profiad y claf ac aelodau staff yw nod ein cynlluniau, yn ogystal â gwella canlyniadau, a lleihau’r pwysau sydd ar wasanaethau meddygon teulu, ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys.

“Rydym wedi amlinellu cynllun, a fydd yn derbyn £100m o gymorth i gychwyn, ar gyfer adfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl y pandemig Covid ac rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i wireddu’r cynllun hwn.”

‘Anghynaliadwyedd’

Wrth ymateb i gynlluniau Llywodraeth Cyrmu, dywedodd Llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd, Rhun ap Iorwerth AoS: “Mae’r pandemig wedi amlygu anghynaliadwyedd ein gwasanaethau iechyd a gofal, ac er gwaethaf gwaith arwrol y staff, rydym bellach yn wynebu problemau dyfnach nag o’r blaen.

“Er fy mod yn croesawu elfennau o’r cyhoeddiad heddiw, megis cyfeirio cleifion at lwybrau amgen ar gyfer ceisio gofal, er enghraifft, er mwyn cadw pwysau oddi ar feddygon teulu, adrannau damweiniau ac achosion brys a’r gwasanaeth ambiwlans, byddaf yn chwilio am dystiolaeth o newidiadau sy’n gwneud gwahaniaeth yn y tymor hir, gan adeiladu gwasanaethau mwy cynaliadwy wrth galon ein cymunedau.”

Ambiwlans

Y Gwasanaeth Ambiwlans dan ‘bwysau eithafol’ oherwydd y gwres ac oedi mewn ysbytai

Daw hyn wrth i’r Swyddfa Dywydd rybuddio y gallai’r tymheredd yng Nghymru gyrraedd ei lefel uchaf heddiw