Mae “cynnydd sylweddol” wedi bod mewn ymosodiadau ar fenywod a thwyll yn ystod y cyfnod clo.

Dengys ffigyrau gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) o’r flwyddyn hyd at fis Mawrth fod patrymau trosedd arferol wedi newid oherwydd y cyfyngiadau yn ystod y cyfnod pandemig.

Dywedodd Billy Gazard o Ganolfan Trosedd a Chyfiawnder yr ONS bod y pandemig wedi gadael “ôl sylweddol” ar batrymau trosedd.

“Roedd gostyngiadau mawr mewn lladrata, sy’n cynnwys torri fewn i dai a lladrad personol, oherwydd bod mwy o bobl yn aros gartref a chyfyngu ar gysylltiad personol,” meddai.

Trais

“Ar yr un pryd, roedd cynnydd sylweddol mewn troseddau twyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron, sy’n cynnwys hacio, gyda thwyllwyr yn cymryd mantais o’r newidiadau yn arferion pobl yn ystod y pandemig, fel siopa ar-lein yn amlach er enghraifft.

“Ar y llaw arall, roedd y nifer o bobl a ddioddefodd droseddau treisgar wedi gostwng.

“Mae hyn yn debygol o fod oherwydd y gostyngiad mewn trais mewn llefydd cyhoeddus yn ystod y cyfnodau clo cenedlaethol”.

Cam-drin domestig

Cofnododd yr heddlu 844,955 achos oedd yn ymwneud â cham-drin domestig yn ystod y cyfnod 12 mis, ac fe roedd hynny 6% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.

Roedd 672,383 achos o drais yn erbyn person o dan y categori cam-drin domestig – cynnydd o 7% ar y flwyddyn gynt.

Mae elusen Cymorth i Ferched Cymru wedi rhybuddio eisoes eleni bod cam-drin menywod yn benodol “ar lefel epidemig”.

Ategodd y swyddfa bod hi’n “anodd sefydlu” lefelau cam-drin domestig yn llwyr gan ddefnyddio data’r heddlu oherwydd bod newid yn ddiweddar yn y ffordd mae troseddau o’r math hwn yn cael eu hadrodd.

Dydyn nhw methu â chadarnhau felly os oes cynnydd ar y cyfan o gam-drin domestig y llynedd, er bod ffigyrau’n awgrymu bod “profiadau o gam-drin domestig wedi dwysáu yn ystod y cyfnod clo”.

Troseddau cyfrifiadurol

Yn ystod y cyfnod clo, roedd mwy o bobl yn siopa ar-lein, ac roedd cyfle i droseddwyr fanteisio ar hynny.

Yn ôl Action Fraud, y ganolfan genedlaethol sy’n derbyn cwynion am dwyll a seiberdroseddau, roedd cynnydd o 28% mewn troseddau sy’n ymwneud â thwyll, gyda 398,022 achos yn 2020/21.

Roedd hynny’n cynnwys cynnydd o 57% mewn twyll o siopau ac ocsiynau ar-lein, yn ogystal â chynnydd o 44% mewn twyll buddsoddi arian.

Cofnododd y National Fraud Intelligence Bureau gynnydd o 55% mewn hacio personol hefyd.

Ar y cyfan, roedd yr heddlu wedi cofnodi 5.4 miliwn o droseddau yng Nghymru a Lloegr y llynedd, gostyngiad o 10% ar y flwyddyn flaenorol.