Wrth i nifer y bobol sy’n cael gwybod eu bod nhw wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â Covid drwy Ap y Gwasanaeth Iechyd gynyddu, mae Eluned Morgan wedi esbonio’r camau sy’n ofynnol.
Er nad yw hysbysiad gan Ap Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd yn golygu bod dyletswydd cyfreithiol i hunanynysu, mae hi’n dweud y dylai pobol barhau i ddilyn y cyfarwyddyd i hunanynysu.
Mae’n ofyniad cyfreithiol i hunanynysu os bydd y Gwasanaeth Profi ac Olrhain yn cysylltu.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, mae cyfraddau achosion yng Nghymru wedi bod yn codi, ac o ganlyniad mae nifer y cysylltiadau sy’n gorfod hunanynysu hefyd yn cynyddu.
Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw cyfraddau’r achosion a’r cysylltiadau ar yr un lefelau â rhai mewn mannau eraill o’r Deyrnas Unedig, meddai.
Cafodd dros 600,000 o bobol yng Nghymru a Lloegr wybod gan yr ap fod rhaid iddyn nhw hunanynysu yn yr wythnos yn gorffen ar 14 Gorffennaf, meddai’r ystadegau diweddaraf.
Allan o’r 618,903 hysbysiad, roedd 11,417 ohonyn nhw yng Nghymru.
Mae’r ap yn parhau i fod yn adnodd pwysig i’r Gwasanaeth Profi ac Olrhain, ychwanegodd, gan ddweud fod y cynnydd yn nifer yr hysbysiadau’n dangos fod yr ap yn gweithio’n effeithiol.
Newidiadau posib ym mis Awst
Ym mis Awst, nod Llywodraeth Cymru yw cael gwared ar y gofyniad i bobol sydd wedi cael eu brechu’n llawn hunanynysu os ydyn nhw wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â Covid.
Bydden nhw hefyd yn ystyried eithriadau posib eraill, er enghraifft y rhai dan 18 oed, meddai Eluned Morgan.
Er mwyn cyd-fynd â hyn, bydd Ap y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei addasu.
Hyd nes y cyflwynir unrhyw newidiadau, mae’n hanfodol bod unrhyw un sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu yn gwneud hynny, meddai Eluned Morgan.
Potensial bydd “pwysau ychwanegol”
“Rwy’n ymwybodol bod potensial yn ystod yr wythnosau nesaf i wasanaethau hanfodol, megis y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol, wynebu pwysau ychwanegol o ganlyniad i gynnydd yn nifer y cysylltiadau sy’n hunanynysu.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda chyrff clinigol a’r cyrff perthnasol yn y Gwasanaeth Iechyd, ynghyd â phartneriaid yn y maes gofal cymdeithasol, i gytuno ar fesurau lliniaru effeithiol ar gyfer rolau sy’n wynebu cleifion a chleientiaid yn uniongyrchol, a rolau gofalu.
“Gwneir hyn er mwyn ystyried beth arall y gellid ei wneud mewn sefyllfa anodd, lle gallai hunanynysu gan gysylltiadau agos sydd wedi’u brechu’n llawn gael effaith uniongyrchol ar ddiogelwch cleifion.”
Ynghyd â hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Dimau Rheoli Digwyddiadau rhanbarthol, sy’n gyfrifol am atal Covid a llunio ymateb, ystyried a yw hunanynysu yn achosi risgiau i wasanaethau a seilwaith hanfodol.