Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun i fynd i’r afael â rhestrau aros am driniaethiau yn y Gwasanaeth Iechyd.
Am y tro cyntaf erioed mae rhestrau aros am driniaethau mewn ysbytai wedi cyrraedd dros 600,000 o bobl – sy’n gyfystyr â 19% o boblogaeth Cymru.
Fis Mai eleni nodwyd bod yna 608,062 yn aros i ddechrau triniaeth, sy’n gynnydd o 5,000 ers mis Ebrill .
Yn ôl Russel George, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd mae cynllun yn hanfodol i ddelio â’r sefyllfa.
“Mae’r niferoedd hyn yn peri pryder mawr a heb gynllun yn ei le byddant yn gwaethygu a heb driniaeth, ni all pobl fynd o gwmpas eu bywydau o ddydd i dydd.
“Mae cadw cleifion rhag triniaeth fel hyn sy’n cael effaith ar eu bywyd yn annerbyniol, ond mae peidio ag egluro sut i fynd i’r afael ag ef yn esgeulus.”
Mae ystadegau diweddar gan y Gwasanaeth Iechyd yn dangos y canlynol:
- Bod gan Gymru un o’r adrannau brys gwaethaf o ran amser aros – sef Ysbyty Prifysgol y Faenor yng Nghwmbrân, yr ail waethaf ym Mhrydain.
- Ar gyfartaledd mae pobl dros 85 oed yn aros bron i chwe awr i gael eu gweld yn yr ysbyty.
- Mae 1 ymhob 4 claf yn aros dros flwyddyn am driniaeth o gymharu ag 1 ymhob 16 ar gyfer Lloegr.
‘Pobl Cymru’n haeddu gwell’
Ychwanegodd Russel George, AoS Ceidwadol dros Sir Fynwy fod cenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig yn gwneud yn well na Llywodraeth Cymru.
“Nid yn unig yw cyfran o gleifion yn Lloegr yn aros am dros flwyddyn ar gyfer triniaeth yng Nghymru bedair gwaith yn fwy nag yn Lloegr mae’r rhestr aros ar gyfartaledd yng Nghymru yn 23.4 wythnos sy’n fwy na dwywaith amser aros dros y ffin sy’n 10.8 wythnos.
“Mae pobl Cymru yn haeddu gofal iechyd o safon ond os ydyn nhw’n edrych ar ein cefndryd Prydeinig byddan nhw’n teimlo eu bod wedi ei gadael lawr gan Lywodraeth Cymru sydd wedi tanberfformio a chamreoli’r GIG ers amser maith.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y dylai pobl feddwl yn ofalus cyn mynd i’r adran damweiniau a gofal brys.
“Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi cynlluniau i wella’r trefniadau ar gyfer darparu gofal brys a gofal mewn argyfwng.
“Rydym yn annog pobl i feddwl yn ofalus am beth yw’r gofal gorau ar gyfer nhw, ac i beidio â mynd at eu meddyg teulu neu i’w hadran damweiniau ac achosion brys lleol allan oni bai bod wir angen.
“Tra bo’r gwasanaeth yn parhau i ymateb i effeithiau’r pandemig, mae’r rhestrau aros ar gyfer triniaeth yn dal i dyfu.
“Rydym wedi amlinellu cynllun, a fydd yn derbyn £100m o gymorth i gychwyn, ar gyfer adfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl y pandemig COVID ac rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau GIG Cymru i wireddu’r cynllun hwn.”