Mae Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (PFEW) yn dweud bod cyfarfod o’i Gyngor Cenedlaethol ddydd Iau (22 Gorffennaf) wedi cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel.
Penderfynodd y corff, sy’n cynrychioli swyddogion heddlu, hefyd dynnu ei gefnogaeth yn ôl o Gorff Adolygu Taliadau’r Heddlu, gan ddweud nad oedd y system yn addas yn dilyn cyhoeddi rhewi cyflogau.
Dywedodd cadeirydd cenedlaethol Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, John Apter: “Nid yw’r Corff Adolygu Taliadau’r Heddlu yn wirioneddol annibynnol.
“Mae dwylo’r corff, sef yr unig fecanwaith sydd gennym i ystyried unrhyw ddyfarniad cyflog i swyddogion yr heddlu, wedi’i glymu’n gan y Llywodraeth, sy’n ymyrryd yn barhaus.
“Ni allwn dderbyn hyn mwyach”
“Mae’r Corff ei hun yn cydnabod ei ddiffyg annibyniaeth. Ni allwn dderbyn hyn mwyach ac nid oes gennym hyder yn y system hon, a dyna pam yr ydym yn cerdded i ffwrdd.
“Rydym yn aml yn clywed yr Ysgrifennydd Cartref yn canmol swyddogion yr heddlu ond mae ein haelodau yn gandryll gyda’r Llywodraeth hwn.
“Maent wedi bod ar reng flaen y pandemig ers 18 mis a byddant yn awr yn gweld gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cael codiadau cyflog tra nad ydynt yn cael dim.
“Ar ddechrau’r pandemig hwn fe ddioddefon nhw brinder Cyfarpar Diogelwch Personol a chafon nhw ddim hyd yn oed eu blaenoriaethu ar gyfer y brechiad.
“Fel y sefydliad sy’n cynrychioli mwy na 130,000 o heddweision gallaf ddweud yn hollol bendant: nid oes gennym hyder yn yr Ysgrifennydd Cartref presennol.”