Cafodd chwech o bobl eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd neithiwr (Nos Iau, 22 Gorffennaf) ar ôl i gar daro tafarn ym Mhontyclun, Rhondda Cynon Taf.
Mae’n debyg bod gyrrwr y car, dyn 79 oed, wedi cael ei daro’n wael wrth yr olwyn gan olygu bod ei gar, Ford Puma lliw arian, wedi taro mewn i dafarn The Windsor yn Heol Llantrisant ym Mhontyclun.
Cafodd nifer o gerddwyr eu hanafu yn y digwyddiad toc cyn 8.30pm nos Iau.
Mae un o’r cerddwyr wedi cael anafiadau sy’n debygol o newid bywyd ac mae gyrrwr y car mewn cyflwr difrifol. Cafodd y pedwar cerddwr arall fan anafiadau a’u cludo i’r ysbyty fel rhagofal.
Mae’r Prif Arolygydd James Ratti o Heddlu De Cymru wedi diolch i aelodau o’r cyhoedd a ddaeth i helpu’r rhai gafodd eu hanafu. Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.
Dywedodd perchnogion tafarn The Windsor ar eu tudalen Facebook bod eu “meddyliau gyda phawb heno, y teuluoedd a’r rhai sydd wedi’u hanafu. Hoffwn ddiolch i’n staff a’r gymuned am eu help a chefnogaeth. A diolch i’r gwasanaethau brys am bopeth heno.”
Fe fydd y darfarn yn parhau ynghau heddiw (dydd Gwener, 23 Gorffennaf) tra eu bod yn cynnal gwiriadau iechyd a diogelwch.