Mae Tokyo yn paratoi ar gyfer seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd heno (nos Wener, 23 Gorffennaf) ond heb gynulleidfa.

Cafodd y gemau eu gohirio’r llynedd oherwydd pandemig y coronafeirws.

Dim ond tua 30 o athletwyr o wledydd Prydain o’r 200 sy’n cymryd rhan fydd yn gorymdeithio yn y seremoni ac fe fydd llawer llai o ddirprwyon o’r gwledydd mwyaf yn sgil pryderon am Covid-19.

Roedd nifer yr achosion positif ymhlith unigolion sy’n rhan o’r Gemau wedi cynyddu o 19 ar ddiwrnod y seremoni agoriadol heddiw. Mae hynny’n golygu bod dros 100 o bobl bellach wedi cael prawf positif am Covid ers 1 Gorffennaf. Mae tri o’r rhai diweddaraf i gael prawf positif yn athletwyr, gydag un o’r rheiny yn aros yn y Pentref Olympaidd. Mae un yn athletwr o’r Iseldiroedd tra bod dau achos arall wedi’u cadarnhau gan y Weriniaeth Tsiec, gan ddod a nifer yr achosion positif yn nhîm y Weriniaeth Tsiec i chwech.