Wedi Tour de France siomedig i Geraint Thomas, bydd ei obeithion nawr yn troi at y Gemau Olympaidd yn Tokyo.

Bydd y cyntaf o rasys seiclo ffordd y dynion yn digwydd ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf, gyda chymal 234 cilomedr o hyd, sy’n pasio heibio mynydd uchaf Japan, sef Mynydd Fuji.

Ddydd Mercher, Gorffennaf 28, ras yn erbyn y cloc fydd yr ail gystadleuaeth i wynebu’r dynion.

Bydd llawer ohonyn nhw yn teithio i Japan wedi tair wythnos ddidostur yn y Tour de France, yn cynnwys Tadej Pogačar a Wout van Aert.

Datgymalodd Geraint Thomas ei ysgwydd yn gynnar yn y ras honno, ond penderfynodd o aros yn y ras tan y diwedd er nad oedd yn debygol o gipio’r crys melyn.

Yn dilyn cyfnod byr o ymlacio, fe fydd y Cymro, sydd eisoes â dwy fedal aur Olympaidd, yn gobeithio am well lwc yn Japan.

Reidio drwy’r boen

Mae un fu’n gohebu ar y Tour de France i S4C yn dweud nad yw yn hawdd darogan beth yw gwir obeithion Geraint Thomas yn y Gemau Olympaidd.

“Pwy a ŵyr, achos roedd Geraint ar lefel uchel iawn ar ddechrau’r [Tour de France], ond ar ôl y ddamwain, wnaethon ni ddim gweld y lefel hynny,” meddai’r seiclwr Gruff Lewis wrth golwg360.

“Mae’n anodd cymryd unrhyw beth o’r daith achos wnaeth e ddim wir dangos y lefel uchel hynny, ond gobeithio mai’r trawma o ddatgysylltu ei ysgwydd oedd y rheswm tu ôl i hynny.

“Gobeithio ei fod yn ymateb nawr a pherfformio ar ei orau.”

Gobeithion Geraint yn Tokyo 

“Os ydych chi’n edrych ar y bwcis, mae e’n 150/1 i ennill y ras ffordd, felly dyw e ddim yn agos at y ffefrynnau o gwbl,” meddai Gruff Lewis.

“Ond rydyn ni gyd yn gwybod beth yw safon Geraint, ac mae’r gallu ganddo i dynnu un allan o’r bag yn y ras unigol neu yn ras yr hewl.”

Gyda dau gyfle i ennill aur eleni, fydd Geraint Thomas ddim yn ffafrio un yn fwy na’r llall yn ôl Gruff Lewis.

“Y peth am y ras unigol yn erbyn y cloc yw bod dim cymaint o amrywiaeth,” meddai.

“Mae tua phump o ddynion o gwmpas y byd yn ennill yn aml, ond ar ei ddiwrnod pwy a ŵyr, mae’n fater o eiliadau iddo.

“Ar yr hewl, mae gan Geraint y coesau i fod yn y grŵp blaen, ac yna mae lawr i lwc, a nifer y gwledydd sydd yn y grŵp blaen.

“Bydd rhaid inni aros nes y diwrnod i weld sut siâp fydd arno, ond pam ddim medal aur?

“Mae’n fwy tebygol o gael medal aur ar yr hewl, ond bydd e’n fwy tebygol i fod ar y podiwm yn y ras unigol yn erbyn y cloc.”

Ffefrynnau

Felly pwy fydd y ffefrynnau i gipio’r fedal aur eleni?

“Tadej Pogacar yw’r ffefryn uchaf, ac wedyn mae pobl fel Wout van Aert, Primoz Roglic ac unrhyw un o’r enwau yn neg uchaf y Tour de France,” meddai Gruff Lewis.

“Yn hanesyddol, mae enillydd y ras Olympaidd wedi cystadlu yn y Tour yn yr un flwyddyn, sy’n ddiddorol i weld, er bod amgylchiadau gwahanol i addasu iddyn nhw.

“Ond gobeithio, ar y cyfan, y bydd Geraint yn gallu troi popeth rownd.”