Mae disgwyl i Abertawe benodi John Eustace, is-hyfforddwr QPR, yn rheolwr newydd y clwb.

Daw hyn ar ôl i Steve Cooper adael y clwb yn gynharach yr wythnos hon.

Roedd Eustace, 41, ar y rhestr fer pan wnaeth Abertawe benodi Steve Cooper yn brif hyfforddwr ym mis Mehefin 2019.

Bydd Eustace nawr yn cael ei gyfle i arwain y clwb, a fydd yn talu ffi iawndal bach i QPR.

Mae disgwyl iddo aros gyda QPR am eu gêm gyfeillgar yn erbyn Manchester United ddydd Sadwrn (24 Gorffennaf), gydag Abertawe’n debygol o’i gadarnhau fel eu rheolwr newydd yn ddiweddarach y penwythnos hwn neu ddechrau’r wythnos nesaf.

Coventry, Stoke, Watford a Derby

Wedi’i eni yn Solihull, dechreuodd Eustace ei yrfa yn Coventry City ac aeth ymlaen i chwarae i Stoke City, Watford a Derby County, tra’i fod hefyd wedi cael cyfnodau ar fenthyg gyda Dundee United, Middlesbrough a Hereford.

Ar ôl ymddeol oherwydd anaf difrifol i’w ben-glin, dechreuodd ei yrfa yn rheolwr gyda Kidderminster Harriers yn 2016.

Yn dilyn hynny, ymunodd â QPR fel cynorthwyydd i Steve McClaren.

Cafodd gyfnod yn rheolwr dros dro QPR ar ddiwedd tymor 2018-19 cyn dychwelyd i’w rôl yn is-hyfforddwr ar ôl i Mark Warburton gael ei benodi i’r brif swydd.

Gorffennodd QPR yn nawfed yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, 12 pwynt a phum lle y tu ôl i Abertawe, wnaeth golli yn erbyn Brentford yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle yn Wembley.