Mae Alun Pritchard wedi ei benodi yn Rheolwr Cyffredinol newydd ar glwb Rygbi Gogledd Cymru (RGC).

Yn gyn-chwaraewr rheng ôl gydag Abergele, roedd Alun Pritchard yn allweddol yn y broses o sefydlu Rygbi Gogledd Cymru fel rhanbarth i feithrin doniau rygbi.

Roedd yn gyfarwyddwr gwirfoddol y tîm yn y dyddiau cynnar, ac yn ddiweddarach bu yn bartner allweddol i Rygbi Gogledd Cymru ac Undeb Rygbi Cymru fel uwch swyddog digwyddiadau.

Yna, symudodd i Motorsports UK, ble’r oedd yn gyfrifol am waith masnachol a chwsmeriaid yn Rali GB Cymru a Phencampwriaeth Rali Brydeinig.

Rhan eang o’i rôl newydd fydd bod yn gyfrifol am lwybrau at rygbi cymunedol a rygbi perfformiad yng Ngogledd Cymru yn ogsytal â gweithio â phartneiriad allweddol fel Cyngor Conwy er mwyn sicrhau profiad o ansawdd ar gyfer chwaraewyr, staff a chefnogwyr ym Mharc Erias.

“Mae’n wych i fod yn rhan o rygbi yng ngogledd Cymru unwaith eto,” meddai.

“Rwy’n gobeithio y gallaf ddod â fy mhrofiad, gwybodaeth leol, egni a pherthnasoedd da â budd-deiliaid i’r rôl newydd gyffrous yma.

“Un o fy mhrif obeithion i ddechrau yw adeiladu ar bartneriaethau sydd eisoes wedi’i sefydlu, gyda Chyngor Conwy, sefydladau addysgol a phartneriaid masnachol, a sefydlu rhai newydd er mwyn i rygbi ffynnu ar draws bogledd Cymru ar bob lefel o’r gêm.”

‘Mynd i’r lefel nesaf’

Mae Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John, wedi croesawu’r penodiad.

“Mae Rhanbarth Datblygu Gogledd Cymru yn parhau yn flaenoraieth i ni fel Undeb ac rydym yn falch fod rhywun fel Alun Pritchard sydd a’i brofiad rygbi a masnachol a pherthnasoedd allweddol, wedi ei benodi i arwain y Rhanbarth yn ôl i weithgarwch llawn yn dilyn y pandemig, gan anelu i fynd a’r Rhanbarth cyfan i’r lefel nesaf ar, ac r oddi y cae,” meddai.

“Rydym ni yn edrych ymlaen i adeiladu ar y partneriaethau cryf â Chyngor Conwy, staff a gwirfoddolwyr yn y Rhanbarth er mwyn creu model unigryw ar gyfer datblygu cyfleoedd rygbi a meithrin talent ym mhob lefel o’r gêm.”