Mae gêm gyfeillgar tîm pêl-droed Abertawe oddi cartref yn Bristol Rovers heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 24) wedi’i chanslo gan fod sawl achos o Covid-19 o fewn carfan yr Elyrch.
Roedd disgwyl i’r hyfforddwr Alan Tate fod wrth y llyw wrth i’r clwb barhau i chwilio am reolwr newydd yn dilyn ymadawiad Steve Cooper.
Ar ôl i’r achosion ddod i’r amlwg, penderfynodd y clwb na ddylid cynnal y gêm er mwyn ceisio atal ymlediad pellach.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bydd y chwaraewyr dan sylw yn gorfod hunanynysu.
Bydd yr holl chwaraewyr a staff sydd yn swigen y tîm cyntaf yn parhau i gael profion cyson.
Dywed y clwb y bydd unrhyw gefnogwyr sydd wedi prynu tocyn i wylio’r gêm ar y we yn cael ad-daliad, ac maen nhw wedi diolch i Bristol Rovers am eu cydweithrediad.
John Eustace
Yn y cyfamser, mae’r dyfalu’n parhau mai Joh Eustace fydd y rheolwr newydd.
Mae disgwyl i is-reolwr 41 oed QPR adael y swydd honno i ddod i Stadiwm Liberty i olynu Steve Cooper, ac fe fydd yr Elyrch yn talu swm o iawndal i’w ddenu.
Mae’n debyg ei fod e wedi cyrraedd y rhestr fer pan gafodd y Cymro Cooper ei benodi yn 2019.
Mae QPR yn herio Manchester United mewn gêm gyfeillgar heddiw, ac fe fydd e’n rhan o’r tîm hyfforddi ar gyfer y gêm honno.
Y disgwyl yw y bydd e’n cael ei gadarnhau’n rheolwr ar yr Elyrch cyn diwedd y penwythnos neu ddechrau’r wythnos nesaf.
Cafodd ei eni yn Solihull, gan ddechrau ei yrfa gyda Coventry, ac fe chwaraeodd e wedyn i Stoke, Watford a Derby, yn ogystal â chael cyfnodau ar fenthyg yn Dundee United, Middlesbrough a Henffordd.
Ar ôl ymddeol ag anaf, cafodd ei benodi’n rheolwr ar Kidderminster yn 2016, a threulio dwy flynedd yno cyn ymuno â QPR yn is-reolwr i Steve McClaren, ei reolwr yn Derby.
Roedd e wrth y llyw dros dro yn QPR yn 2018-19, gan osgoi’r gwymp o’r Adran Gyntaf ac fe barhaodd e’n is-reolwr o dan arweiniad Mark Warburton – un arall sydd wedi’i gysylltu â swydd Abertawe yn y gorffenol.
Roedd QPR yn nawfed yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, pum safle a 12 o bwyntio islaw’r Elyrch.
Mae’r Elyrch bellach wedi colli’r taliadau parasiwt ar ôl cwympo o’r Uwch Gynghrair dair blynedd yn ôl ac mae’r her sy’n wynebu’r rheolwr newydd yn debygol o fod yn un sylweddol ar ôl dau dymor cymharol lwyddiannus o dan Steve Cooper, wrth i’r Elyrch gyrraedd y gemau ail gyfle ddau dymor yn olynol.
Cyrhaeddon nhw’r rownd gyn-derfynol ddau dymor yn ôl, cyn colli yn y ffeinal yn erbyn Brentford ar ddiwedd y tymor diwethaf, ond mae lle i gredu bod Steve Cooper wedi’i ddadrithio â sefyllfa’r clwb, gydag arian yn dal i fod yn broblem sylweddol.