Fe fydd y Gymraes Jade Jones yn anelu i greu hanes yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo, drwy fod y ferch gyntaf o wledydd Prydain i ennill medal aur Olympaidd mewn tair o Gemau gwahanol.

Ac fe fydd Bianca Walkden, sy’n rhannu tŷ â’r Gymraes ym Manceinion, yn ceisio’i hefelychu hi drwy ennill pob un o’r prif fedalau – Pencampwriaeth Ewrop, Pencampwriaeth y Byd a’r Gemau Olympaidd.

Pe na bai Jade Jones yn ennill medal aur yn y taekwondo, gallai’r anrhydedd mae hi’n ei chwrso fynd i Charlotte Dujardin ar gefn ei cheffyl, y rhwyfwraig Helen Glovr neu’r seiclwr Laura Kenny.

Uchafbwyntiau gyrfa Jade Jones

Enillodd Jade Jones fedal aur Olympaidd yng Ngemau Ieuenctid 2010, cyn ennill yr aur yng Ngemau Olympaidd Llundain ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Daliodd hi ei gafael ar y fedal yn Rio de Janeiro yn 2016.

Erbyn hynny, roedd hi eisoes wedi ennill ei theitl Ewropeaidd cyntaf ar ôl dod yn agos gyda medal arian yn 2011 ac efydd yn 2017. Daeth yr aur ym Manceinion yn 2019.

Enillodd hi arian a dwy efydd ym Mhencampwriaeth Ewrop 2014, tra ei bod hi hefyd ar y podiwm yng Ngemau Ewrop 2015.

Mae ganddi wyth medal aur ar y gylchdaith Grand Prix, pum medal arian ac un efydd.