Mae Wyn Jones allan o brawf cyntaf tîm rygbi’r Llewod yn erbyn De Affrica yn Cape Town heno (nos Sadwrn, Gorffennaf 24) ar ôl anafu ei ysgwydd.

Dioddefodd prop 29 oed Cymru yr anaf wrth ymarfer ddydd Iau (Gorffennaf 22).

Dechreuodd e’r daith yn gadarn, gan sgorio cais yn erbyn De Affrica ‘A’ i sicrhau ei le yn y tîm prawf.

Daw’r Albanwr Rory Sutherland i mewn i’r tîm yn ei le, gyda Mako Vunipola wedi’i enwi ymhlith yr eilyddion.

Dim ond dau Gymro sydd yn y tîm bellach, sef y capten a’r clo Alun Wyn Jones a’r maswr Dan Biggar.