Mae crysau oddi cartref tîm pêl-droed Wrecsam wedi’u dylanwadu gan Philadelphia, dinas y cyd-berchennog a seren Hollywood, Rob McElhenney.

Mae’r crysau’n wyrdd – yr un lliw â thîm pêl-droed Americanaidd y Philadelphia Eagles – ac wedi’u noddi gan TikTok, ynghyd ag Aviation Gin ac Expedia.

Maen nhw hefyd yn dwyn y geiriau “It’s Always Sunny”, gan adleisio enw’r ffilm It’s Always Sunny in Philadelphia, sef un o ffilmiau enwoca’r actor.

“Rwy’ wrth fy modd fod y cit yma’n dod â dau o’r pethau rwy’n eu caru ynghyd: Clwb Pêl-droed Wrecsam a Philadelphia,” meddai.

“Gobeithio y byddwn yn adeiladu atgofion gwych efo’n gilydd yn y gwyrdd enwog yma.”

Bydd y crysau newydd ar gael i’w prynu ddydd Mercher (Gorffennaf 28), ar y we ac yn y siop.

Roedd disgwyl i’r crysau fod yn barod ar gyfer taith Wrecsam i’r Unol Daleithiau a’r gêm yn erbyn Philadelphia Union, ond mae’r daith bellach wedi’i chanslo.