Mae gobeithion y Gymraes Jade Jones o ennill medal aur Olympaidd yn y taekwondo yn Tokyo ar ben, ar ôl iddi gael ei threchu gan y ffoadur Kimia Alizadeh, sy’n hanu o Iran.

Roedd record sylweddol o fewn ei chyrraedd, drwy fod y ferch gyntaf o wledydd Prydain i ennill yr aur yn y Gemau Olympaidd dair gwaith yn olynol.

Dim ond medal efydd sy’n bosib iddi erbyn hyn, a hynny drwy’r repechage pe bai Alizadeh yn cyrraedd y rownd derfynol.

Roedd ganddi ddau bwynt o fantais yn y rownd agoriadol, a hynny ar ôl anelu dwy gic triphwynt at ben ei gwrthwynebydd, ond colli o 16-12 wnaeth hi yn y pen draw ar ôl i’r rhod droi.

Roedden nhw’n gyfartal erbyn y rownd olaf, ond aeth Alizadeh bedwar pwynt ar y blaen gyda dim ond 20 eiliad yn weddill, a chafodd apêl Jones ei gwrthod.

Alizadeh oedd y ferch gyntaf o Iran i ennill medal Olympaidd, wrth iddi ennill y fedal efydd y tu ôl i Jade Jones yn Rio de Janeiro yn 2016.