Mae’r Cymro Harry Wilson wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Fulham, a’r gred yw eu bod nhw wedi talu £12m i’w ddenu o Lerpwl.

Mae’n ymuno â’r golwr Paulo Gazzaniga, sydd hefyd wedi ymuno â’r clwb ar ôl i Marco Silva gael ei benodi’n rheolwr.

Mae Wilson, sy’n 24 oed, wedi llofnodi cytundeb pum mlynedd gyda’r clwb sydd newydd ostwng o Uwch Gynghrair Lloegr.

Dim ond dwywaith chwaraeodd e yng nghrys Lerpwl, ond mae e wedi treulio cyfnodau ar fenthyg yn Crewe, Hull, Derby, Bournemouth a Chaerdydd.

Mae e wedi ennill 29 o gapiau dros Gymru, gan ddod i’r cae yn eilydd dair gwaith yn ystod Ewro 2020 dros yr haf.

Cafodd ei gysylltu â Benfica’n fwyaf diweddar, ac mae lle i gredu bod Lerpwl hefyd wedi gwrthod cynnig gan Burnley y llynedd.